Paraffilia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar:شذوذ جنسي
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ar:انتكاس نوعي; cosmetic changes
Llinell 2:
Yn [[seicoleg]] a [[rhywoleg]], mae'r term '''paraffilia''' (o'r [[Groeg (iaith)|Roeg]]: ''para'' παρά = gerllaw yn annormal a ''[[-ffilia]]'' φιλία = [[cariad]]) yn disgrifio teulu o ffantasïau, cymhellion gwyrol, neu ymddygiadau dwys, parhaus mae unigolyn yn teimlo sy'n ymwneud â [[cyffro rhywiol|chyffro rhywiol]] o wrthrychau annynol, [[poen]] neu [[cywilydd|gywilydd]] a brofiadir gan unigolyn neu ei bartner, neu [[plant|blant]] neu unigolion eraill sy'n anaddas fel partneriaid neu ni all cydsynio i gael [[rhyw]]. Gall baraffiliâu ymyrryd â'r gallu am weithgarwch rhywiol serchog dwyochrog.<ref>American Psychiatric Association (2000). ''Diagnostic and statistical manual of mental disorders: DSM-IV'' (4<sup>ydd</sup> argraffiad, adolygiad testun), tud. 566-567.</ref> Defnyddir y term paraffilia yn ogystal i gyfeirio at ymarferion rhywiol tu allan i'r prif ffrwd heb yn angenrheidiol ymhlygu camweithrediad (gweler yr adran [[#Barnau clinigol ar baraffiliâu|Barnau clinigol]]). Hefyd, gall ddisgrifio teimladau rhywiol tuag at wrthrychau sydd fel arall yn ddi-rywiol.
 
== Barnau clinigol ar baraffiliâu ==
Mae llawer o drafod ynglŷn â beth yn union (os unrhywbeth) dylai diffinio paraffilydd, a sut dylai rhain cael eu dosbarthu'n glinigol.
 
=== Paraffiliâu clinigol cydnabyddedig ===
Trafodir wyth prif baraffilia yn unigol gan lenyddiaeth glinigol.<ref>{{dyf gwe | iaith = en | cyhoeddwr = PSYweb.com | url = http://psyweb.com/Mdisord/DSM_IV/jsp/Axis_I.jsp | dyddiadcyrchiad = 8 Hydref | blwyddyncyrchiad = 2007 | teitl = Axis I }}</ref> Yn ôl ''[[Y Cyfarwyddiadur Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol]]'' (DSM), mae'n rhaid i'r gweithgaredd fod yn yr unig fodd o foddhad rhywiol am gyfnod o chwe mis, ac naill ai achosi "trallod neu amhariad, mewn adrannau cymdeithasol, galwedigaethol, neu adrannau pwysig eraill o weithredu, sydd yn arwyddocaol yn glinigol" neu cynnwys trosedd yn erbyn [[cydsyniad (cyfraith)|cydsyniad]] er mwyn i ddiagnosis gael ei wneud ohono fel paraffilia.<ref>{{ dyf gwe | dyddiadcyrchiad = 8 Hydref | blwyddyncyrchiad = 2007 | iaith = en | teitl = Change in Criterion for Paraphilias in DSM-IV-TR | gwaith = The American Journal of Psychiatry | url = http://ajp.psychiatryonline.org/cgi/content/full/159/7/1249 | dyddiad = Gorffennaf 2002}}</ref>
 
* [[Arddangosiaeth]]: y cymhelliad neu ymddygiad i ddangos organau cenhedlu i berson nad yw'n ddisgwyl.
* [[Chwant rhywiol|Chwant neu ffetis rhywiol]]: y defnydd o wrthrychau di-rywiol neu anfyw neu ran o gorff rhywun i gael cynnwrf rhywiol.
* [[Ffroteisiaeth]]: y cymhelliad neu ymddygiad i gyffwrdd neu rwbio yn erbyn person nad yw'n cydsynio.
* [[Pedoffilia]]: yr atyniad rhywiol i blant rhag-[[glasoed|lasoedol]].
* [[Sadistiaeth a masochistiaeth fel termau meddygol|Masochistiaeth]]: y cymhelliad neu ymddygiad o eisiau cael eich gwaradwyddo, baeddu, clymu, neu fel arall teimlo poen er mwyn pleser rhywiol.
* [[Sadistiaeth a masochistiaeth fel termau meddygol|Sadistiaeth]]: y cymhelliad neu ymddygiad o weithredoedd lle mae poen neu gywilydd y dioddefwr yn rhoi cynnwrf rhywiol.
* [[Ffetisiaeth trawswisgo]]: atyniad rhywiol tuag at ddillad y [[rhywedd]] arall.
* [[Voyeuriaeth]]: y cymhelliad neu ymddygiad o wylio person nad yw'n cydsynio yn [[noeth]], dadwisgo neu'n cael rhyw neu [[hunan-leddfu]], neu gall fod yn ddi-rywiol ei natur.
* Grwpir paraffiliâu eraill, mwy anghyffredin gyda'i gilydd o dan ''Paraffiliâu eraill sydd fel arall heb eu henwi'' sydd yn cynnwys [[necroffilia]] ([[celain|celanedd]]), [[söoffilia]] ([[anifail|anifeiliaid]]), [[coproffilia]] ([[ymgarthion]]) a [[taeogaeth (BDSM)|thaeogaeth]] (cael eich clymu).
 
Yn flaenorol, rhestrwyd [[gwrywgydiaeth]] fel paraffilia yn y [[DSM-I]] a [[DSM-II]]. Mewn cysondeb â'r newid mewn consensws rhwng seicriatryddion ni chynhwysir mewn argraffiadau diweddarach. Mae anhwylder trallod clinigol o ganlyniad i ataliad gwrywgydiaeth dal ar y rhestr.
 
=== Seicoleg paraffiliâu ===
==== Argraffiad ymddygiadol ====
Cawn gwybodaeth wyddonol werthfawr ar fecanweithiau [[atyniad rhywiol|atyniad]] ac [[awydd rhywiol]], megis [[argraffiad ymddygiadol]], o arsylwad ymddygiad paraffilig. Arweinir astudiaeth ofalus yn ogystal at gasgliadau amhenderfynol bod gall brosesau biolegol normal weithiau cael eu hamlygu mewn ffyrdd hynodweddol mewn o leiaf rhai o'r paraffiliâu, a chysylltir yr amlygiadau anarferol hyn yn aml gyda digwyddiadau anghyffredin (ac yn enwedig trawmatig) a gysylltir â phrofiad rhywiol cynnar. Tueddir iddynt cael eu hachosi gan [[cyflyru clasurol|gyflyru clasurol]] lle mae symbyliad rhywiol wedi'i baru â symbyliadau a sefyllfaoedd nad yw ymateb rhywiol yn nodweddiadol yn deillio o, ac wedyn wedi'i fytholi trwy [[cyflyru gweithredol|gyflyru gweithredol]] oherwydd yr ymateb rhywiol yw gwobr ei hunan (neu [[atgyfnerthiad cardarnhaol]]).
 
== Rhestr chwantau ==
* [[Chwant balŵnau]]
* [[Chwant traed]]
 
== Cyfeiriadau ==
<div class="references-small"><references /></div>
 
Llinell 35:
[[Categori:Atyniad rhywiol]]
 
[[ar:شذوذانتكاس جنسينوعي]]
[[bg:Сексуално отклонение]]
[[bs:Parafilija]]