486958 Arrokoth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
{{cyfoes}}
[[Delwedd:Ultima thule color.png|{{mp|2014 MU|69}} mewn lliw (cymerwyd gan ''New Horizons'' ar 1 Ionawr 2018)|bawd]]
Gwrthrych traws-Neifionaidd yw '''{{mp|(486958) 2014 MU|69}}''', sydd a'r llysenw '''Ultima Thule''', wedi ei leoli yng [[Gwregys Kuiper|wregys Kuiper]]. Mae'n gorff deuoldeuaidd gyffwrdd (dau wrthrych ar wahan wedi closio at ei gilydd yn gymharol araf), gyda diamedr wedi ei amcangyfrif tua 35 wrth 15 cilometr (20 wrth 10 milltir). Mae'r gwrthrych yn cynnwys dau gorff lle mae'r un mwyaf ('Ultima') yn dair gwaith y cyfaint y lleiaf ('Thule'). Gyda cyfnod cylchdroadol o 298 blwyddyn a gogwydd ac echreiddiad isel, mae'n cael ei ddosbarthu fel gwrthrych gwregys Kuiper clasurol a tybir nad yw wedi profi unrhyw aflonyddiad sylweddol gydaa fod ganddo nifer cymhedrol o geudyllau.
 
Darganfuwyd {{mp|2014 MU|69}} ar 26 Mehefin 2014 gan seryddwyr yn defnyddio [[Telesgop Gofod Hubble]] wrth archwilio'r gwregys Kuiper am wrthrych i'w dargedu gan daith ''[[New Horizons]]'' fel rhan o'i daith estynedig ar ôl ymweld a [[Plwton (planed gorrach)|Phlwton]].<ref name="hubble_2_KBOs">{{cite web|title=Hubble Survey Finds Two Kuiper Belt Objects to Support New Horizons Mission|url=http://hubblesite.org/newscenter/archive/releases/2014/35/image/a/|work=HubbleSite news release|publisher=[[Space Telescope Science Institute]]|date=1 Gorffennaf 2014}}</ref> Cafodd ei ddewis yn hytrach na'r targedau {{mp|2014 OS|393}} a {{mp|2014 PN|70}} i ddod yn darged sylfaenol y daith. Mae'r llysenw "Ultima Thule" yn drosiad Lladin am le wedi'i leoli y tu hwnt i ffiniau y byd hysbys, a fe'i ddewiswyd fel rhan o gystadleuaeth gyhoeddus yn 2018. Bydd tîm New Horizons yn cyflwyno enw priodol i'r Undeb Seryddol Rhyngwladol wedi casglu yr holl wybodaeth a drosglwyddir yn ystod 2019, pan fydd y natur y gwrthrych yn fwy hysbys. Dyma'r gwrthrych pellaf yng Nghysawd yr haul sydd wedi ei ymweld gan long ofod.