Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nelson Mandela"

Ychwanegwyd 32 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (cat)
Tagiau: 2017 source edit
| dateformat = dmy
}}
'''Nelson Rolihlahla Mandela''' ([[18 Gorffennaf]] [[1918]] – [[5 Rhagfyr]] [[2013]]), oedd Arlywydd cyntaf [[De Affrica]] [[1994]]-[[1999]] i gael ei ethol mewn etholiadau cwbl gynrychiadol democrataidd. Cyn ei arlywyddiaeth, roedd Mandela yn ymgyrchydd gwrth-[[apartheid]] ac ef oedd arweinydd y Gynghrair Affricanaidd Cenedlaethol (ANC) a'i adain arfog sef yr Umkhonto we Sizwe. Cafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau a gyflawnwyd pan arweiniai ef y frwydr yn erbyn apartheid. Am ei ran yn y troseddau hyn, treuliodd 27 mlynedd yn y carchar gyda nifer helaeth o'r blynyddoedd hyn wedi'u treulio ar [[Ynys Robben]].
 
Yn Ne Affrica ac yn rhyngwladol, daeth Mandela yn symbol o ryddid a chyfiawnder yn sgîl ei wrthwynebiad i apartheid, tra bod y llywodraeth apartheid a gwledydd a oedd yn cefnogi'r system hwn yn condemnio Mandela ac yn ei alw ef a'i gefnogwyr yn gomiwnyddion ac yn derfysgwyr. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar ar yr [[11 Chwefror|11eg o Chwefror]], [[1990]], arweiniodd ei gefnogaeth o drafodaeth at ddemocratiaeth aml-hîl yn Ne Affrica. Ers diwedd apartheid, mae Mandela wedi derbyn canmoliaeth fawr gan ei gyn-wrthwynebwyr hyd yn oed.
Mae Mandela yn perthyn i'r dynasty Thembu a reolai yn Nhiriogaethau Transkeian yn Nhalaith Cape yn Ne Affrica.<ref>{{dyf gwe|url=http://allafrica.com/stories/200807180124.html|teitl=De Affrica: Dathlu Mandela yn 90 oed|dyddiad=July 17, 2008|cyhoeddwr=AllAfrica.com|iaith=en|dyddiadcyrchiad=28 Hydref|blwyddyncyrchiad=2008}}</ref>
 
Cafodd ei eni yn Mvezo yn y rhanbarth Umtata, sef prif ddinas Transkei. Enw ei hen-dadcu oedd Ngubengcuka (Anhysbys–1832Anhysbys – 1832), ac ef oedd y Inkosi Enkhulu neu Frenin y Bobl Thembu, nes iddynt ddod o dan reolaeth ymerodraethol Brydeinig. Daeth un o feibion y brenin, a alwyd yn Mandela, yn dadcu i Nelson ac o'i herwydd ef cafodd y cyfenw Mandela. Fodd bynnag, am mai plentyn o wraig Inkosi o glan Ixhiba ydoedd, nid oedd gan y disgynyddion o'i rhan hi o'r teulu brenhinol yr hawl i orsedd Thembu. Roedd gan dad Mandela bedwar gwraig a chafodd 13 o blant gyda hwy (pedwar bachgen a naw merch). Ganwyd Mandela i drydedd gwraig Gadla. Golyga ei enw enedigol Rolihlahla "i dynnu cangen o goeden", neu mwy iaith bob dydd, "achoswr trwbwl.".
 
== Ei Addysg ==
Dylanwadwyd ar syniadaeth Mandela gan [[Mahatma Gandhi]] a ysbrydolodd ef a'r cenedlaethau nesaf o ymgyrchwyr gwrth-apartheid yn Ne Affrica. Yn wir, cymrodd Mandela ran yng nghynhadledd 29-30 Ionawr, 2007 yn [[Delhi]] i ddynodi can mlwyddiant cyflwyno satyagraha Gandhi yn Ne Affrica.
 
Yn wreiddiol, roedd Mandela'n gryf o blaid protestiadau torfol di-drias. Cafodd ei arestio ynghyd â 150 o bobl eraill ar y [[5 Rhagfyr|5ed o Ragfyr]] [[1956]] a'i gyhuddo o deyrnfradwriaeth. Parhaodd yr achos llys o 1956 - 611956–61 a chafodd pawb eu ffeindio'n ddi-euog. Rhwng 1952-591952–59, profodd yr [[ANC]] amhariaeth wrth i garfan newydd o ymgyrchwyr duon (yr Africanists) fynnu camau mwy eithafol yn erbyn y Blaid Genedlaethol. Teimlai arweinwyr yr ANC, Albert Luthuli, Oliver Tambo a Walter Sisulu nid yn unig fod pethau'n symud yn rhy gyflym, ond bod eu harweinyddiaeth yn cael ei gwestiynu hefyd. Mewn ymgais i hybu eu safle, crëwyd cynghreiriau gyda phleidiau gwleidyddol Gwyn, Indiaidd a lleiafrifoedd ethnig bychain eraill er mwyn ceisio apelio at fwy o bobl na'r Africanists.
Albert Luthuli, Oliver Tambo a Walter Sisulu nid yn unig fod pethau'n symud yn rhy gyflym, ond bod eu harweinyddiaeth yn cael ei gwestiynu hefyd. Mewn ymgais i hybu eu safle, crëwyd cynghreiriau gyda phleidiau gwleidyddol Gwyn, Indiaidd a lleiafrifoedd ethnig bychain eraill er mwyn ceisio apelio at fwy o bobl na'r Africanists.
 
Ym 1959, collodd yr ANC ei chefnogaeth mwyaf militant pan grëodd yr Africanists y Gynghrair Pan Africanist, gyda chefnogaeth ariannol o [[Ghana]] a chryn dipyn o gefnogaeth gwleidyddol wrth y Basotho yn [[Transvaal]].
== Gweithredu Gerila ==
 
Ym 1961, daeth Mandela yn arweinydd adain arfog yr ANC, ''Umkhonto we Sizwe'' (cyfieithir fel Gwaywffon y Genedl, talfyrir fel MK), adain a sefydlwyd ganddo ar y cyd. Cyd-lynodd ymgyrchoedd o ddifrodi targedau milwrol a llywodraethol, gan wneud cynlluniau ar gyfer rhyfela gerila posib pe na bai'r difrodi hwn yn llwyddo i ddod ag apartheid i ben. Roedd Mandela hefyd yn codi arian dramor ar gyfer yr MK gan drefnu hyfforddiant milwrol ar gyfer y grŵp.
 
Esboniodd un o'i gyd-aelodau o'r ANC, Wolfie Kadesh, yr ymgyrch fomio a arweiniwyd gan Mandela, gan ddweud "''When we knew that we going to start on 16 December 1961, to blast the symbolic places of apartheid, like pass offices, native magistrates courts, and things like that ... post offices and ... the government offices. But we were to do it in such a way that nobody would be hurt, nobody would get killed.''". Dywedodd Mandela am Wolfie: "''His knowledge of warfare and his first hand battle experience were extremely helpful to me.''".
 
Disgrifiodd Mandela y symudiad tuag at frwydro arfog fel yr opsiwn olaf; roedd y blynyddoedd o orthrwm cynyddol a thrais gan y wladwriaeth wedi ei argyhoeddi fod y blynyddoedd o ymgyrchu di-drais yn erbyn apartheid heb gyflawni dim ac na fyddai'n cyflawni dim chwaith.
Yn ddiweddarch, yn ystod y 1980au yn bennaf, bu'r MK mewn rhyfel gerila yn erbyn y gyfundrefn apartheid a dioddefodd nifer o silifiaid. Cyfaddefodd Mandela'n hwyrach fod yr ANC, tra'n brwydro yn erbyn apartheid, wedi mynd yn groes i [[hawliau dynol]]. Beirniadodd Mandela y bobl hynny yn ei blaid ei hun a oedd wedi ceisio gwaredu'r datganiadau hyn o adroddiad y [[Comisiwn Gwirionedd a Chymodi]].
 
Tan mis Gorffennaf 2008, roedd Mandela ac aelodau'r ANC wedi'u gwahardd rhag mynd i mewn i'r [[Unol Daleithiau]] heblaw am bencadlys y [[Cenhedloedd Unedig]] yn [[Manhattan]] - heb ganiatad arbennig wrth Ysgrifennydd Gwladol yr UD, am fod y cyfnod o gyfundrefn apartheid [[De Affrica]] yn eu hystyried yn [[terfysgaeth|derfysgwyr]].
 
;Arestio ac Achos Llys Rivonia
Yn ei ddatganiad yn Uchel-Lys Pretoria ar yr 20fed o Ebrill 1964, esboniodd Mandela resymeg yr ANC dros ddefnyddio trais fel ffordd o ymgyrchu. Dangosodd ei ddatganiad sut y defnyddiodd yr ANC dactegau di-drais am flynyddoedd er mwyn brwydro yn erbyn apartheid, tan [[Cyflafan Sharpeville|Gyflafan Sharpeville]]. Roedd y digwyddiad hwn, ynghyd â'r refferendwm yn sefydlu De Affrica, y Datganiad o Gyflwr Argyfyngus yn ogystal â gwahardd yr ANC wedi ei wneud yn glir mai'r unig opsiwn a oedd ar ôl ganddynt oedd drwy ymgyrch o ddifrodi. Pe na baent wedi gwneud hynny, byddai'n gyfatebol i ildio diamod. Parhaodd Mandela drwy esbonio sut yr aethant ati i ddatblygu Maniffesto'r Umkhonto we Sizwe ar yr 16eg o Ragfyr 1961, gyda'r nod o amlygu methiannau polisïau'r Blaid Genedlaethol am y byddai tramorwyr yn gwrthod buddsoddi yn y wlad ac felly'n cael effaith negyddol ar yr economi. Gorffennodd ei ddatganiad gyda'r geiriau canlynol:
 
"''During my lifetime I have dedicated myself to the struggle of the African people. I have fought against white domination, and I have fought against black domination. I have cherished the ideal of a democratic and free society in which all persons live together in harmony and with equal opportunities. It is an ideal which I hope to live for and to achieve. But if needs be, it is an ideal for which I am prepared to die.''".
 
RoeddBram Fischer, Vernon Berrange, Harry Schwarz, Joel Joffe, Arthur Chaskalson a George Bizos i gyd yn rhan o'r tîm cyfreithiol a oedd yn amddiffyn y cyhuddiedig. Cafwyd pob un heblaw am Rusty Bernstein eu dyfarnu'n euog ar y 12fed o Fehefin 1964, ond llwyddasant i osgoi'r grocbren trwy dderbyn dedfryd o oes yn y carchar.
== Hunangofiant ==
 
Cyhoeddwyd hunangofiant Mandela, Long Walk to Freedom ym 1994. Dechreuodd Mandela ei ysgrifennu'n gyfrinachol pan oedd yn y carchar. Yn y llyfr hwnnw, ni ddatgelodd Mandela unrhyw gysylltiad honedig rhwng [[F.W. de Klerk]] nac ychwaith rôl ei gyn-wraig [[Winnie Mandela]] yn y tywallt gwaed a ddigwyddodd yn ystod y 1980au a'r 1990au. Yn ddiweddarach fodd bynnag, cyd-weithiodd Mandela gyda'i ffrind, y newyddiadurwr Anthony Sampson a drafododd y materion hyn yn ei lyfr "''Mandela: The Authorised Biography''". Ffaith arall a hepgorwyd oedd y llyfr a honwys i fod yn dwyllodrus, "''Goodbye Bafana''". Honnodd awdur y llyfr, James Gregory, warden yn Robben Island, fod Mandela'n rhannu cyfrinachau ag ef a chyhoeddodd fanylion am faterion teuluol y carcharor. Mynnai Sampson nad oedd Mandela'n adnabod Gregory yn dda iawn, ond bod Gregory yn sensro llythyron a ddanfonwyd at y arlywydd nesaf ac felly darganfyddodd fanylion am fywyd personol Mandela. Honnodd Sampson hefyd fod y wardeniaid eraill yn amau fod Gregory yn ysbio ar ran y llywodraeth a bod Mandela yn ystyried mynd a Gregory i'r llys.
 
== Arlywyddiaeth De Affrica ==
132

golygiad