Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Brenin Arthur"

Ychwanegwyd 21 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Cymeriad sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y [[Brythoniaid]] yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr [[Sacsoniaid|Sacsonaidd]] oedd '''y Brenin Arthur'''. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y [[5ed ganrif|bumed ganrif]] a dechrau'r [[6ed ganrif|chweched]], tra gred eraill mai cymeriad [[mytholeg]]ol ydyw.
 
Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr ''[[Historia Brittonum]]'' o ran gyntaf y [[9g]], a briodolir i [[Nennius]]. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis ''[[Preiddiau Annwn]]'' o tua [[900]] ac yn arbennig yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', sy'n dyddio i tua [[1080]] - [[1100]].
 
Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn sôn am Arthur a'r [[dewin]] [[Myrddin]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ("Hanes Brenhinoedd Prydain") ym [[1136]]. O'r adeg hon ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop. Ychwanegodd awduron [[Ffrainc|Ffrengig]] a [[Normaniaid|Normanaidd]] lawer o fanylion o sawl ffynhonnell, er enghraifft am y cleddyf ''[[Caledfwlch]]'', [[Y Greal Santaidd]] a chastell [[Camelot]]. Un o'r llyfrau mwyaf enwog a dylanwadol am y Brenin Arthur yw'r ''[[Le Morte d'Arthur|Morte d'Arthur]]'' a ysgrifennwyd gan [[Thomas Malory]] yn y [[15fed ganrif|bymthegfed ganrif]].
 
Mae chwedlau [[llên gwerin]] am Arthur i'w cael ledled Cymru, [[Cernyw]] a [[Llydaw]].
== Y dystiolaeth hanesyddol ==
[[Delwedd:Llandaf, yr eglwys gadeiriol Llandaf Cathedral De Cymru South Wales 163.JPG|bawd|Ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn dangos Arthur yn dychwelyd o Frwydr Baddon.]]
Nid yw [[Gildas]] yn crybwyll Arthur yn y ''[[De Excidio Britanniae]]'', a ysgrifennwyd efallai tua 540 neu 550, genhedlaeth ar ôl amser tybiedig Arthur. Fodd bynnag mae yn crybwyll [[Brwydr Mynydd Baddon]], fel brwydr bwysig iawn a enillodd heddwch am gyfnod hir i'r [[Brythoniaid]]. Yn ôl y darlleniad arferol, nid yw Gildas yn dweud pwy oedd arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr yma. Fodd bynnag, awgryma rhai ysgolheigion, o astudiaeth o'r brif lawysgrif o'r ''De Excidio Britanniae'', "''British Library, Cotton Vitellius A.vi''", fod Gildas mewn gwirionedd yn priodoli'r fuddugoliaeth i Ambrosius Aurelianus ([[Emrys Wledig]]).<ref>Thomas Green (2008) ''Concepts of Arthur'' tt. 31-21</ref>
 
Y [[Cymry|Cymro]] [[Nennius]] oedd y cyntaf i gysylltu Arthur â'r frwydr fawr ym Mynydd Baddon yn ei lyfr ''[[Historia Brittonum]]'' ac mae'n cyfeirio at nifer o frwydrau eraill yn ogystal, gan gynnwys [[Brwydr Camlan]] pryd yr honnir i Arthur gael ei ladd trwy dwyll.
Credir mai ychwanegiadau gweddol ddiweddar, efallai o'r [[9g]], yw'r cyfeiriadau yma, ac nid cofnodion o'r [[6g]] ei hun.
 
Am ganrifoedd lawer, ystyrid fod cyfrol [[Sieffre o Fynwy]], yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ("Hanes Brenhinoedd Prydain") a ymddangosodd ar ddechrau 1136, yn hanes dibynadwy. Dywed Sieffre ei hun ei fod wedi defnyddio hen lyfr Cymraeg fel ffynhonnell, ond y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai Sieffre ei hun a ddyfeisiodd lawer o'i ddeunydd.
 
== Arthur y Cymry ==
[[Delwedd:Culhwch.jpg|bawd|250px|chwith|Culhwch yn cyrraedd llys Arthur i ofyn cymorth.]]
 
Yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', sy'n dyddio oddeutu [[1080]] - [[1100]], mae [[Culhwch]] yn ceisio ennill llaw [[Olwen]] ferch y cawr [[Ysbaddaden Bencawr]]. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na chaiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gyngor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys [[Cai]] a [[Bedwyr]], yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (''[[anoethau]]'') anodd os nad amhosibl. Cyflawnir y tasgau gan wŷr Arthur. Nid yw ef ei hun yn cymryd llawer o ran yn y gwaith o gyflawni'r tasgau, ac eithrio lladd y Widdon Orddu a'i gyllell Carnwennan. Yn un lle mae ei wŷr yn ei gynghori i ddychwelyd adref yn hytrach na chymryd rhan mewn tasgau mor ddibwys.
 
Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y ffurf ar y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio [[Mabon fab Modron|Fabon fab Modron]] a hela'r [[Twrch Trwyth]] yn haeddiannol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen. Ymddengys Glewlwyd Gafaelfawr yn y chwedl, ond y tro hwn fel porthor Arthur ei hun.
[[Delwedd:Artus2.jpg|170px|bawd|de|Y Brenin Arthur]]
 
Rhoddwyd gwedd newydd ar Arthur gan [[Sieffre o Fynwy]] yn ei gyfrol ''Historia Regum Britanniae'' ("Hanes Brenhinoedd Prydain") a ymddangosodd yn nechrau 1136. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu'r ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y [[Canol Oesoedd]] gyda phrifddinas yng [[Caerllion|Nghaerllion-ar-Wysg]] ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o [[sifalri]]. Sieffre hefyd oedd y cyntaf i gysylltu'r dewin [[Myrddin]] a hanes Arthur; yn y traddodiad Cymraeg nid oes cysylltiad rhyngddynt.
 
Yn fersiwn Sieffre, syrth [[Uthr Bendragon]], brenin [[Ynys Brydain]], mewn cariad ag [[Eigr]] (Igraine), gwraig [[Gorlois]], Dug [[Cernyw]]. Caiff Uthr gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng nghastell [[Tintagel]], a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.
Daeth gweithiau'r llenor Ffrengig [[Chrétien de Troyes]] (tua [[1135]] – tua [[1183]]) am y brenin Arthur a'i farchogion yn eithriadol o boblogaidd, er enghraifft ''[[Lancelot ou le Chevalier de la charrette]]''. Mae'n debyg iddo gael llawer o'i ddeunydd o'r traddodiad [[Celtiaid|Celtaidd]]. Mae ''[[Érec et Énide]]'', ''[[Yvain ou le Chevalier au Lion]]'' a ''Perceval ou le Conte du Graal'' yn cyfateb i'r tair stori yn [[Y Tair Rhamant]] yn Gymraeg: ''[[Geraint ac Enid]]'', ''[[Iarlles y Ffynnon]]'' a ''[[Peredur fab Efrawg]]''. Nid oes sicrwydd a yw'r storïau Cymraeg yn addasiad o weithiau Chrétien ynteu yn weithiau annibynnol yn defnyddio'r un deunydd. Yn ''Perceval, ou le Conte du Graal'', sy'n dyddio rhwng 1180 a 1191, y ceir y sôn cyntaf am [[y Greal Santaidd]], sy'n ddiweddarach yn dod yn elfen bwysig yn y chwedlau Arthuraidd.
 
Tua dechrau'r [[13g]], ymddangosodd y [[Lawnslot-Greal]] ([[Ffrangeg]]: ''Lancelot-Graal''), cyfres o chwedlau am y brenin Arthur yn [[Ffrangeg]] a adnabyddir hefyd fel y ''' Lawnslot rhyddiaith:'', y ''Fwlgat'', neu'r ''Cycle du Pseudo-Map''. Ni wyddys pwy oedd yr awdur. Mae'n ymdrin â'r ymchwil am y Greal Santaidd a hanes y garwriaeth rhwng y frenhines [[Gwenhwyfar]] a [[Lawnslot]]. Yn y chwedlau yma, mae marchogion megis [[Lawnslot]] a [[Galahad]], nad ydynt yn ymddangos yn y traddodiad Cymreig, yn dod yn gynyddol bwysig.
Tua dechrau'r [[13g]], ymddangosodd y [[Lawnslot-Greal]] (Ffrangeg:
''Lancelot-Graal''), cyfres o chwedlau am y brenin Arthur yn [[Ffrangeg]] a adnabyddir hefyd fel y ''' Lawnslot rhyddiaith:'', y ''Fwlgat'', neu'r ''Cycle du Pseudo-Map''. Ni wyddys pwy oedd yr awdur. Mae'n ymdrin â'r ymchwil am y Greal Santaidd a hanes y garwriaeth rhwng y frenhines [[Gwenhwyfar]] a [[Lawnslot]]. Yn y chwedlau yma, mae marchogion megis [[Lawnslot]] a [[Galahad]], nad ydynt yn ymddangos yn y traddodiad Cymreig, yn dod yn gynyddol bwysig.
 
Erbyn y [[15g]], roedd y diddordeb yn y chwedlau Arthuraidd yn dechrau pallu yn Ffrainc, ond adfywiwyd y diddordeb yn Lloegr. [[Le Morte d'Arthur]] yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr [[Thomas Malory]] (c. 1405 - 1405–[[1471]]), wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth. Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn [[1485]] gan [[William Caxton]], a daeth yn eithriadol o boblogaidd.
 
== Arthur a gwleidyddiaeth ==
 
Efallai mai yng ngoleuni hyn y dylid ystyried yr haeriad ar ddiwedd y 12g fod bedd Arthur wedi ei ddarganfod. Yn [[1191]], cyhoeddwyd fod mynachod Abaty [[Glastonbury]], wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn [[1184]], wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o [[plwm|blwm]] gyda'r arysgrif :
:<font color=gray>'''''HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA'''''</font>
:"Yma'r gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".
 
133

golygiad