Glofa Gresffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gresfordmem1.jpg|250px|bawd|Y gofeb i Drychineb Gresffordd]]
[[Pwll glo]] ger [[Wrecsam]] oedd '''Glofa Gresffordd''', rhan o [[Maes Glo Gogledd Cymru|Faes Glo Gogledd Cymru]]. Mae'n enwog am y drychineb a ddigwyddodd ar [[22 Medi]], [[1934]], pan gafodd 265 o bobl eu lladd trwy ffrwydrad nwy yn y pwll. Mae hi'n un o'r trychinebau pyllau glo mwyaf erchyll yn hanes [[Prydain]]. Roedd mynediad y pwll ger pentref [[Y Pandy, Wrecsam|Y Pandy]] lle mae'r gofeb yn sefyll heddiw.
 
Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan roedd rhyw 500 o lowyr yn gweithio dan ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll. Ailagorwyd y pwll chwech mis yn ddiweddarach, heblaw am ran "Denis" y pwll lle digwyddodd y damwain.