Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ymddangosiadau Ar y Teledu: canrifoedd a Delweddau using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:arcticmonkeys.jpg|bawd|200px|Yr Arctic Monkeys]]
 
Band roc o Sheffield ydy'r '''Arctic Monkeys'''. Yr aelodau yw [[Alex Turner]] (Prif Ganwr a Gitar), Jamie Cook (Prif Gitar), Nick O'Malley (Gitar Bâs - aelod newydd, gan fod gitarydd bâs gwreiddiol y band, Andy Nicholson, wedi penderfynu gadael), a Matt Helder (Drymiau). Cafodd ''[[MySpace]]'' ddylanwad enfawr ar eu llwyddiant cynnar, ac aeth eu sengl cyntaf, 'I Bet That You Look Good On The Dancefloor' i rif 1 yn siartiau Prydain. Daeth llwyddiant pellach yn fuan wedyn, ar ôl i'w halbwm cyntaf, 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not', gyrraedd rhif 1 yn y Deyrnas Unedig, lle torrodd y record am y nifer a werthwyd yn yr wythnos gyntaf o werthiant. Enillodd yr albwm wobr ''Mercury Music'' yn 2006, fel yr albwm gorau'r flwyddyn. Hefyd enillodd yr albwm yn y categori 'Albwm Gorau' a'r band yn ennill y teitl 'Band Prydeinig Gorau' yn seremoni gwobrwyo'r ''BRITS'' yn 2007. Yn 2007 hefyd, rhyddhaodd y band eu hail albwm, 'Favourite Worst Nightmare', a gafodd ei enwebu am wobr ''Mercury Music'' yn 2007. Perfformiodd y band fel un o'r prif fandiau yng Ngwyl byd-enwog ''[[Glastonbury]]'' ym mis Mehefin 2007. Enillodd yr albwm y wobr am yr albwm gorau, ynghyd â'r wobr am y band gorau yng Ngwobrau'r ''BRITs'' yn 2008 am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyfeirir at y band yn aml fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y funud ac mae gwerthiant eu recordiau a'r gwobrwyon maent wedi ennill yn adlewyrchiad teg o hyn.
 
== Ymddangosiadau Ar y Teledu ==