Shirley Bassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehangu
Llinell 36:
 
Ar ôl 1964, cafodd y sengl "Goldfinger" ddylanwad hir-dymor ar ei gyrfa; pan yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer clawr yr albwm ''Bassey's 25th Anniversary Album''' ym 1978, dywed Clayton fod: "Acceptance in America was considerably helped by the enormous popularity of (Goldfinger)...But she had actually established herself there as early as 1961, in cabaret in New York. She was also a success in Las Vegas...'I suppose I should feel hurt that I've never been really big in America on record since Goldfinger...But, concertwise, I always sell out.'..."<ref>[http://home.arcor.de/bassey/ The Songs of Shirley Bassey] Nodiadau clawr yr albwm gan Peter Clayton. "25th Anniversary Album".</ref> Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith mai dim ond un o LPs Bassey a gyrhaeddodd yr 20 Uchaf yn siart yr Unol Daleithiau, (R&B, Live at Carnegie Hall), ac felly roedd yn "lwyddiant un-cân," a ymddangosodd unwaith yn unig ym 40 Uchaf y [[Billboard Hot 100]], gyda "Goldfinger". Serch hynny, ar ôl "Goldfinger" dechreuodd ei gwerthiant leihau yn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda dwy o'i senglau'n unig yn cyrraedd y 40 Uchaf tan 1970. Roedd ganddi gytundeb gyda United Artists, a threuliodd ei halbwm cyntaf gyda'r label hynny, sef "[[I've Got a Song for You]]" (1966), wythnos yn y siart; o bryd hynny tan 1970, dim ond dwy o'i halbymau aeth i 40 Uchaf y siart, gydag un o'r albymau hynny yn gasgliad o ganeuon. Ym 1967 fodd bynnag, rhyddhawyd un o'i senglau enwocaf "[[Big Spender]]", er iddo gyrraedd ychydig tu allan i 20 Uchaf y Deyrnas Unedig yn unig.
 
==1980 - 1999==
Trwy gydol y rhan fwyaf o'r [[1980au]], ffocysodd Bassey ar waith [[elusen|elusennol]] gan berfformio ambell daith gynherddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd ei chytundeb gyda EMI-United Artists wedi dod i ben a dechreuodd Bassey yr hyn a gyfeiriodd ato fel 'ymddeoliad-rhannol'. Ym 1982, recordiodd Bassey albwm o'r enw ''[[All by Myself (albwm Shirley Bassey)|All by Myself]]'' a gwnaeth raglen [[teledu|deledu]] arbennig ar gyfer [[Thames Television]] o'r enw ''A Special Lady'' gyda [[Robert Goulet]] yn westai iddi. Ym 1983 recordiodd ddeuawd gydag [[Alain Delon]], "Thought I'd Ring You", a fu'n llwyddiannus yn Ewrop. Bellach roedd Bassey yn recordio tipyn llai ond rhyddhaodd albwm o'i chaneuon mwyaf adnabyddus ym 1984, ''[[I Am What I Am (albwm Shirley Bassey)|I Am What I Am]]'', a berfformiwyd gyda Cherddorfa Simffoni Llundain. Ym 1986, rhyddhaodd seng; a fideo i gefnodi Bwrdd Twristiaeth Llundain, ''There's No Place Like London''. Ym 1987 recordiodd album o draciau sain [[James Bond]], ''[[The Bond Collection]]'', ond mae'n debyg ei bod yn anhapus gyda'r canlyniad, ac felly gwrthododd ei ryddhau. (Pum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ta beth. Aeth Bassey ag achos yn erbyn y cwmni a tynnwyd pob copi na werthwyd yn ôl.)<ref>Bassey v. Icon Entertainment plc (1995) EMLR 596</ref> Ym 1987 hefyd, recordiodd Bassey ei llais ar gyfer yr artistiaid o'r Swistir [[Yello]] ar "[[The Rhythm Divine]]", cân a ysgrifennwyd ar y cyd â'r canwr Albanaidd [[Billy Mackenzie]]. Ym 1989 rhyddhaodd albwm a oedd wedi ei chanu yn ei chyfanrwydd yn Sbaeneg, ''[[La Mujer (albwm Shirley Bassey)|La Mujer]]''. Ar ddiwedd canol y 1980au, roedd Bassey wedi dechrau gweithio gyda hyfforddwr lleisiol, cyn ganwr opera, a dangosodd ei halbwm [[Keep the Music Playing (albwm Shirley Bassey)|Keep the Music Playing]] ym 1991 arddull grand, [[pop operatig]] ar nifer o'r caneuon (a ddylanwadwyd o bosib gan ei halbwm gyda Cherddorfa Simffoni Llundain rai blynyddoedd ynghynt).
 
 
==Recordiau Shirley Bassey==