Afon Alaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae Afon Alaw yn tarddu gerllaw [[Llanerchymedd]] yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i [[Llyn Alaw|Lyn Alaw]], cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.
 
Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio [[Llanbabo]] a [[Llanfachreth (Môn)]], ac mae afon arall, a elwir Afon Alaw Fach, yn ymuno â hi. Mae'n cyrraedd y môr ym [[Penrhos|Mhenrhos]], i'r dwyrain o [[Caergybi|Gaergybi]].
 
Ceir sôn am Afon Alaw yn ''Brawnwen ferch Llŷr'', ail gainc y [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]], lle'r adroddir yr hanes am [[Branwen]] yn marw o dorcalon am fod cymaint o ryfelwyr dewr o [[Ynys y Cedyrn]] ([[Ynys Prydain]]) ac [[Iwerddon]] wedi marw o'i hachos hi, a'i chladdu wedyn mewn bedd ar lan Afon Alaw: