Aderyn drycin y graig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 41:
==Ymlediad==
Dros o leiaf bedair canrif, ac am gyfnod llawer hwy, hyd orau y gwyddom, conglfaen economi pobl Ynysoedd Hiort oedd y pedryn. Roedd y diwylliant ynghlwm wrtho yn unigryw gan nad oedd yr un boblogaeth arall o'r adar hyn i bob pwrpas yn bodoli yng ngogledd yr Iwerydd tan ail hanner y 19eg ganrif. Ar raffau y cafodd yr adar eu cynaeafu oddi ar y clogwyni gan yr ynyswyr, a hynny yn eu miloedd. Disgrifiodd Martin Martin, croniclwr yr ardal yn ei A Description of the Western Isles of Scotland tua 1695 fod "gan y gymuned ddwy raff bedwar gwrhyd (fathom) ar hugain o hyd.... dringai'r dynion i lawr a mawr oedd y cynhaeaf o wyau a chyrff a ddeuai i'w rhan". Wrth ori eu hunig wy ar eu nythfa serth, cyfogai - na, saethai - yr adar gynnwys drewllyd eu 'stumogau at y rhai a ddeuai oddi uchod ar y rhaffau i'w casglu. Dychmygwch y drewdod ar grysau a throwseri wrth i'r hogiau noswylio.
Daeth y diwydiant hynafol, a'r diwylliant ynghlwm wrtho, i ben ar 30 Awst 1930 gyda'r fudfa olaf a orfodwyd ar y boblogaeth gan y Llywodraeth Brydeinig "er ei lles". Stori arall yw honno. Ond yn yr un cyfnod digwyddodd ddeiaspora (o fath) i'r pedrynnod hefyd. Tua 1878, am resymau nad ydynt yn gwbl hysbys hyd heddiw, dechreuodd yr adar nythu ar ynysoedd eraill gan ymledu nes iddynt gyrraedd Ynys Manaw yn 1930. Cafwyd nyth cyntaf Cymru yn 1945 ar Ben y Gogarth, Llandudno, a chofiaf fy hunan y cyffro ddiwedd y 1970au pan gafwyd y parau cyntaf yn nythu ar lethrau'r Friog yn Sir Feirionnydd.[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn6.pdf]
 
[[Categori:Adar]]