Aderyn drycin y graig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 40:
 
==Ymlediad==
Dros o leiaf bedair canrif, ac am gyfnod llawer hwy, hyd orau y gwyddom, conglfaen economi pobl [[St Kilda|Ynysoedd Hiort]] oedd y pedryn. Roedd y diwylliant ynghlwm wrtho yn unigryw gan nad oedd yr un boblogaeth arall o'r adar hyn i bob pwrpas yn bodoli yng ngogledd yr Iwerydd tan ail hanner y 19eg ganrif. Ar raffau y cafodd yr adar eu cynaeafu oddi ar y clogwyni gan yr ynyswyr, a hynny yn eu miloedd. Disgrifiodd Martin Martin, croniclwr yr ardal<ref>Martin Martin[https://www.amazon.co.uk/Description-Western-Islands-Scotland-Circa/dp/1841580201] (c. 1695)''A Description of the Western Isles of Scotland'' cyh. xxx</ref> fod "gan y gymuned ddwy raff bedwar [[gwrhyd]] (fathom) ar hugain o hyd.... dringai'r dynion i lawr a mawr oedd y cynhaeaf o wyau a chyrff a ddeuai i'w rhan" (cyfieithiad). Wrth ori eu hunig wy ar eu nythfa serth, cyfogai - na, saethai - yr adar gynnwys drewllyd eu 'stumogau at y rhai a ddeuai oddi uchod ar y rhaffau. Dychmygwch y drewdod ar grysau a throwseri wrth i'r hogiau noswylio.
Daeth y diwydiant hynafol unigryw, a'r diwylliant ynghlwm wrtho, i ben ar 30 Awst 1930 gyda'r fudfa olaf a orfodwyd ar y boblogaeth gan y Llywodraeth Brydeinig "er ei lles". Stori arall yw honno.