Katherine Waterston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

actores a aned yn 1980
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Katherine Boyer Waterston (ganed 3 Mawrth 1980) yn actores Americanaidd. Ymddangosodd yn ei ffilm sinema gyntaf yn Michael Clayton (2007). Aeth yn ei...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:17, 5 Ionawr 2019

Mae Katherine Boyer Waterston (ganed 3 Mawrth 1980) yn actores Americanaidd. Ymddangosodd yn ei ffilm sinema gyntaf yn Michael Clayton (2007). Aeth yn ei blaen i gael rolau cefnogol mewn ffilmiau gan gynnwys Robot & Frank, Being Flynn (y ddwy yn 2012) a The Disappearance of Eleanor Rigby: Her (2013) cyn iddi ddod i amlygrwydd ar gyfer ei pherfformiad fel Shasta Fay Hepworth yn Inherent Vice (2014) gan Paul Thomas Anderson. Yn 2015, portreadodd Chrisann Brennan yn Steve Jobs. Cafodd rôl serennu fel Tina Goldstein yn y ffilm ddeilliedig Harry Potter Fantastic Beasts and Where to Find Them (2016), rôl a ddychwelodd ati yn y ffilm ddilynol yn 2018. Cynhwysa rolau ffilm eraill Alien: Covenant (2017) Ridley Scott, Logan Lucky (2017) Steven Soderbergh a Mid90s Jonah Hill.

Ganwyd Waterston ar 3 Mawrth 1980 yn Westminster, Llundain yn ferch i rieni Americaniadd, Lynn Louisa (yn gynt Woodruff), cyn-fodel, a Sam Waterstone, actor a adnabyddir gorau am ei rôl fel Jack McCoy yn nrama’r heddlu Law & Order.