Afon Dyfrdwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:River Dee (United Kingdom); cosmetic changes
Llinell 1:
[[Delwedd:Llangollen railway station.jpg|250px|de|ewin bawd|Afon Dyfrdwy yn Llangollen]]
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Dyfrdwy''' (weithiau hefyd gyda threiglad, '''Afon Ddyfrdwy'''; [[Saesneg]], ''River Dee''). Mae'n llifo trwy siroedd [[Gwynedd]], [[Sir Ddinbych]] a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]] yng Nghymru ac ar hyd ffin [[Swydd Gaer]] yn Lloegr.
 
Llinell 8:
 
== Afonydd llai sy'n llifo i afon Dyfrdwy ==
* [[Afon Alun]]
* [[Afon Alwen]]
* [[Afon Caletwr]]
* [[Afon Ceiriog]]
* [[Afon Ceirw]]
* [[Afon Clywedog (Dyfrdwy)|Afon Clywedog]]
* [[Afon Gwenfro]]
* [[Afon Lliw]]
* [[Afon Tryweryn]]
* [[Afon Twrch]]
 
== Cwrs yr afon ==
 
[[Delwedd:Under Pontcysyllte.jpg|200px|ewin bawd|de|Afon Dyfrdwy yn rhedeg dan Draphont Pontcysyllte]]
 
Ceir tarddle afon Dyfrdwy ar lechweddau dwyreiniol [[Dduallt]], ychydig i'r gogledd-ddwyrain o gopa [[Rhobell Fawr]] ac i'r de-orllewin o bentref [[Llanuwchllyn]]. Mae'n llifo tua'r dwyrain, ac yna i'r gogledd-ddwyrain, yn gyfochrog a'r briffordd [[A494]] i gyrraedd Llanuwchllyn. Gerllaw'r pentref, mae [[afon Lliw]] yn ymuno a hi, ac ychydig ymhellach ymlaen mae [[afon Twrch]] yn ymuno, gerllae caer Rufeinig [[Caer Gai]]. Mae'n llifo trwy [[Llyn Tegid|Lyn Tegid]], ac yn gadael y llyn gerllaw [[y Bala]], lle mae [[afon Tryweryn]] yn ymuno a hi.
Llinell 27:
Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio [[Llandderfel]] ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio [[Cynwyd]], ac yn fuan wedyn mae [[afon Alwen]] yn ymuno a hi. Gerllaw [[Corwen]] mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio [[Carrog]] a [[Glyndyfrdwy]], gan fynd heibio olion [[Castell Glyndyfrdwy]], hen gaer [[Owain Glyndŵr]], yna'n llifo trwy dref [[Llangollen]]. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae [[Traphont Pontcysyllte]] yn cario [[Camlas Llangollen]] dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a [[Froncysyllte]].
 
[[Delwedd:SPIMG0001a.jpg|270px|ewin bawd|chwith|Pont bwa Bangor is y Coed]]
 
O'r fan lle mae [[afon Ceiriog]] yn ymuno a hi, mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd, cyn dychwelyd i Gymru ger [[Erbistog]] a llifo heibio [[Bangor-is-y-coed]]. Ychydig ymhellach ymlaen, mae [[Afon Clywedog (Dyfrdwy)|afon Clywedog]] yn ymuno a hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr eto, a llifo heibio [[Holt]] a [[Farndon, Swydd Gaer|Farndon]]. Mae [[afon Alun]] yn ymuno a hi ychydig ymhellach i'r gogledd. Mae'r afon yn croesi i mewn i Loegr ger [[Aldford]] ac yn llifo heibio [[Eccleston]] a throi tua'r gorllewin trwy ddinas [[Caer]]. Yn fuan wedyn, mae'n dychwelyd i Gymru ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin heibio [[Queensferry]] a [[Shotton]], cyn lledaenu i greu aber o faint sylweddol, gyda'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn arwain ar hyd ei chanol. Mae'n cyrraedd y môr ger [[y Parlwr Du]] ar yr ochr Gymreig a [[Hoylake]] ar yr ochr Seisnig.
Llinell 45:
[[br:Dyfrdwy]]
[[de:Dee (Wales)]]
[[en:River Dee, Wales(United Kingdom)]]
[[fr:Dee (fleuve)]]
[[lt:Di (upė)]]