Hanes Gruffudd ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Historia Gruffud vab Kenan i Hanes Gruffudd ap Cynan trwy ailgyfeiriad.: ceir testun Lladin hefyd (darganfuwyd yn ddiweddar)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yn '''Hanes Gruffudd ap Cynan''' ceir bywgraffiad [[Gruffudd ap Cynan]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ar ddechrau'r [[12fed ganrif]]. Ceir dau destun, un yn [[Cymraeg|Gymraeg]] a'r llall yn [[Lladin]]. Mae '''Historia Gruffud vab Kenan''' yn drosiad [[Cymraeg Canol]] o'r [[Buchedd|fuchedd]] (bywgraffiad) Ladin wreiddiol, sef '''Vita Griffini Filii Conani'''. Mae ''Hanes Gruffudd ap Cynan'' yn unigryw yn [[Llenyddiaeth Gymraeg|hanes llenyddiaeth Gymraeg]] am ei bod yr unig fuchedd Gymraeg Canol sy'n adrodd hanes gŵr lleyg ([[Bucheddau'r Saint]] yw'r bucheddau eraill).
 
==AwduraethHanes testunol==
Cafodd y fersiwn Lladin gwreiddiol, ''Vita Griffini Filii Conani'', ei ysgrifennu rywbryd yn ystod oes [[Owain Gwynedd]], olynydd Gruffudd ap Cynan. Credid hyd yn ddiweddar fod y testun hwnnw wedi ei golli, ond yn ddiweddar mae'r ysgolhaig Paul Russell wedi dangos fod y testun Lladin o Hanes Gruffudd ap Cynan a geir yn [[llawysgrif]] [[Peniarth]] 434E yn cadw'r testun Lladin gwreiddiol yn hytrach na bod yn gyfieithiad i'r Lladin o'r testun Cymraeg Canol ''Historia Gruffud vab Kenan'' [http://www.uwp.co.uk/book_desc/1893.html]. Ceir gwahaniaethau pwysig rhwng y testun gwreiddiol a'r cyfieithiad ohono i'r Gymraeg sy'n tasgu goleuni ar hanes a meddylfryd y cyfnod.