Dafydd (brenin): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bn:দাউদ
manion; trwsio dolenni; cat
Llinell 1:
[[Delwedd:David and Goliath by Caravaggio.jpg|thumb|Dafydd a [[Goliath]] gan [[Caravaggio]].]]
 
Cymeriad yn yr [[Hen Destament]] ac ail frenin teyrnas unedig [[Israel]] oedd '''Dafydd''' ([[Hebraeg]]: דוד) (teyrnasodd c. [[1010 CC]] - [[970 CC]]). Yn draddodiadol, cyfeirir ato hefyd fel '''Dafydd Broffwyd'''.
 
Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: [[I a IILlyfr Samuel|I Samuel a II Samuel]], [[Llyfr Cronicl|Cyntaf y Cronicl]] ac [[LlyfrAil Lyfr y Brenhinoedd|I Brenhinoedd]]. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr [[Goliath]] pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y [[Ffilistiaid]]. Rhoddwyd [[Michal]], merch [[Saul]], brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.
 
Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab [[Jonathan]], yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o [[Hebron]], ond yna gwnaeth [[Jeriwsalem]] yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y [[Jebiwsiaid]]. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwragedd, yn eu plith [[Solomon]], a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i [[Bathsheba]], gweddw [[Urias]].
 
Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i [[Iesu Grist]],. Cafodd yr enw 'Dafydd Broffwyd' yn yr Oesoedd Canol ac mae [[Islam]] yn ei ystyried fel proffwyd yn olyniaeth [[Moses]] ac yn un o ragflaenwyr pwysicaf y proffwyd [[Mohamed]]. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur y [[Llyfr y Salmau]]. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw ''[[Dafydd (Michelangelo)|Dafydd]]'' gan [[Michelangelo]].
 
 
==Gweler hefyd==
*[[Llyfr y Salmau]]
*[[Seren Dafydd]]
 
[[Categori:Brenhinoedd]]
[[Categori:Emynwyr]]
[[Categori:Hanes Israel]]
[[Categori:Proffwydi Islam]]
[[Categori:Yr Hen Destament]]