Emyr Humphreys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:49, 12 Chwefror 2010
Llenor, bardd a nofelydd Cymreig yw Emyr Humphreys (ganwyd 15 Ebrill 1919). Ganwyd ym Mhrestatyn, Sir y Fflint, a mynychodd Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd.[1] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[2]
Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a cyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[3] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[4][2] Mae Humphreys yn Gymrawd o' Gymdeithas Brenhinol Llenyddiaeth.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
- ↑ BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.