Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nant Ffrancon"

Ychwanegwyd 138 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
llun
(→‎Cyfeiriadau: categoriau)
(llun)
 
==Daearyddiaeth==
[[Delwedd:The Banner of Glyndwr flies above a Nant Ffrancon Farm - geograph.org.uk - 239831.jpg|250px|bawd|Edrych i fyny Nant Ffrancon.]]
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb [[daeareg|daearegol]] mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau [[Pen yr Ole Wen]] a [[Carnedd Dafydd]] yn y [[Carneddau]], tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y [[Glyderau]] megis [[Y Garn (Glyderau)|Y Garn]], Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod [[Oes yr Iâ]]. Er bod [[Afon Ogwen]] yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.