Terfysgoedd Nos White: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|alt=Rhes o bobl yn sefyll o flaen adeilad, gyda mwg yn codi tu ôl iddynt. Cyfres o dd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Rioters outside San Francisco City Hall May 21 1979.jpg|250px|alt=bawd|dde|Rhes o bobl yn sefyll o flaen adeilad, gyda mwg yn codi tu ôl iddynt.]]
Cyfres o ddigwyddiadau treisgar a ddechreuwyd oherwydd dedfryd byr [[Dan White]] am [[bradlofruddiaeth Moscone-Milk|fradlofruddio]] Maer [[San Francisco]] [[George Moscone]] a [[Harvey Milk]], [[Bwrdd Arolygwyr San Francisco|arolygwr]] [[hoyw]] agored San Francisco oedd '''terfysgoedd nos White'''. Digwyddodd ar noson yr 21 Mai, 1979 yn San Francisco. Ynghynt y diwrnod hwnnw, cafwyd White yn euog o [[dynladdiad gwirfoddol]], y dedfryd lleiaf posib am ei weithredoedd.
 
Roedd gan hanes y [[cymuned hoyw|gymuned hoyw]] yn San Francisco wrthdaro hir dymor gydag Adran Heddlu San Francisco/ Dwyshaodd statws White fel cyn-blismon ddicter y gymuned tuag at AHSF. Yn wreiddiol cafwyd gwrthdystiadau wrth i brotestwyr orymdeithio drwy [[ardal Castro]] yn San Francisco. Pan gyrhaeddodd y dorf [[Neuadd Dinas San Francisco]], trodd y brotest yn dreisgar. Achoswyd cannoedd o filoedd o ddoleri o ddifrod i eiddo Neuadd y Ddinas ac ardaloedd cyfagos, yn ogystal ag anafiadau i heddweision a therfysgwyr.
 
Sawl awr ar ôl i'r terfysg ddod i ben, ymatebodd yr heddlu drwy gynnal cyrch ar [[bar hoyw|far hoyw]] yn [[Ardal Castro]] o San Francisco. Ymosodwyd ar nifer o'r cwsmeriaid gan heddweision mewn gwisg terfysgoedd. Arestiwyd 24 o bobl yn ystod y cyrch, ac yn ddiweddarach daethpwyd a sawl achos yn erbyn AHSF.<ref>Gorney, Cynthia (4 Ionawr, 1984). name="GorneyThe Legacy of Dan White; A stronger gay community looks back at the tumult". The Washington Post.</ref>
 
Yn y diwrnodau a ddilynodd, gwrthododd arweinwyr y gymuned hoyw ymddiheurio am ddigwyddiadau'r noson. Arweiniodd y undod a chryfder hwn wrth y gymuned hoyw at fwy o bŵer gwleidyddol, a gyrhaeddodd uchafbwynt pan ail-etholwyd Mae [[Dianne Feinstein]] y mis Tachwedd canlynol. Wrth ymateb i un o'i addewidion etholiadaol, apwyntiodd Feinstein Pennaeth yr Heddlu a oedd yn gefnogol i hawliau hoywon. Cynyddodd y nifer o bobl hoyw a recriwtiwyd i'r heddlu a lleihaodd hyn y tensiwn.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:San Francisco]]
Llinell 13 ⟶ 16:
[[Categori:Terfysgoedd]]
[[Categori:1979]]
 
[[es:Disturbios por la sentencia a Dan White]]
[[he:מהומות ליל וייט]]
[[fi:White Night -mellakat]]
[[zh:1979年三藩市騷亂]]