Carn Fadryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd, ychwanegiad, interwiki
Llinell 1:
[[Delwedd:Garn Fadryn.jpg|300px|bawd|Carn Fadryn o'r de]]
'''Carn Fadryn''' (neu '''Carn Fadrun'''), sy'n fynydd 1,217 troedfedd (371m), yw'r pwynt uchaf yng ngorllewin [[Llŷn]]. Tua hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r copa mae copa llai '''Garn Bach'''.
 
Llinell 4 ⟶ 5:
 
==Bryngaer Carn Fadryn==
Ar gopa Carn Fadryn mae olion hen fryngaer gerrig i'w gweld. Mae ganddi ddau fur amddiffynnol o gerrig mawr. Oddi fewn i'r mur mewnol, sy'n amgae tua 5 hectar o dir, ceir gweddillion cytiau crynion. Mae'r mur allanol yn amgae tua 10.5 hectar o dir ac yn cynnwys olion muriau cynharach a ddefnyddwyd i adeiladu cyfres o gytiau hirsgawr, pob un â'i chorlan gysylltiedig. Mae'r gaer i'w dyddio i [[Oes yr Haearn]]; dichon i'r mur mewnol gael ei godi tua [[300 C.C.]] a'r mur allanol tua [[100 C.C.]].
 
Ar y copa mae adfeilion caer fach, neu dŵr cyntefig, a gysylltir â "meibion Owain" ([[Owain Gwynedd]], efallai) ac sy'n dyddio o'r ddiwedd y [[12fed ganrif]], yn ôl pob tebyg. Mae [[Gerallt Gymro]] yn cyfeirio ato yn [[Hanes y Daith Trwy Gymru]] fel castell oedd newydd ei chodi.
 
Heb fod ymhell o'r fryngaer, ceir maen eratig anferth a elwir Bwrdd [[Y Brenin Arthur|Arthur]].
Llinell 15 ⟶ 16:
[[Categori:Mynyddoedd Cymru|Carn Fadryn]]
[[Categori:Bryngaerau Cymru|Carn Fadryn]]
 
[[en:Carn Fadryn]]