Mayfair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ardal yng nghanol [[Llundain]], prifddinas [[Lloegr]], yw '''Mayfair''', a leolir yn [[Dinas San Steffan|Ninas San Steffan]].
== Hanes ==
Enwir Mayfair ar ôl gŵyl flynyddol ''May Fair'' a barhaodd bythefnos, a cynhaliwydgynhaliwyd o [[1686]] ar safle [[Shepherd Market]] heddiw, hyd iddo gael ei wahardd yno ym [[1764]]. Hyd 1686, cynhaliwyd y May Fair yn [[Haymarket (Llundain)|Haymarket]], ac ar ôl 1764, symudwyd i Fair Field yn [[Bow, Llundain|Bow]] gan fod y trigolion a oedd yn weddol gyfoethog yn teimlo fod y ffair yn 'tynnu tôn y lle i lawr'.<ref>http://www.londontourguide.org.uk/walking-tours.htm</ref>
 
Mae Mayfair yn ffinio â [[Hyde Park, Llundain|Hyde Park]] i'r gorllewin, [[Oxford Street]] i'r gogledd, [[Piccadilly]] a [[Green Park]] i'r de a [[Regent Street]] i'r dwyrain. Datblygwyd y rhan helaeth o'r ardal rhwng canol yr [[17eg ganrif]] a chanol yr [[18fed ganrif]], fel ardal breswyl ffasiynol, gan nifer o berchnogion, y pwysicaf o'r rhain oedd y [[Dug San Steffan|teulu Grosvenor]]. Prynodd y [[teulu Rothschild]] rhannaurannau mawr o Mayfair yn ystod yr [[19eg ganrif]]. Mae [[rhydd-ddaliad]] rhan helaeth o Mayfair yn eiddo i [[Ystad y Goron]].
 
Masnachol yw'r ardal yn bennaf erbyn hyn, gyda swyddfeydd mewn tai sydd wedi cael eu addasuhaddasu ac adeiladau newydd.
 
Mae adnabyddiaeth a bri Mayfair wedi tyfu oherwydd ei ddynodiad fel yr eiddo drytaf yn y set Brydeinig o'r gêm [[Monopoly (gêm)|Monopoly]].