Deiniolen (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Tyfodd y pentref o ganlyniad i dŵf [[Chwarel Dinorwig]], sydd ychydig i’r de. Agorwyd Capel Ebenezer yn 1823 a Capel Cefn y Waen yn1825. Yn 1857 adeiladwyd Eglwys Llandinorwig ar gyrion y pentref, gydag arian gan deulu Assheton-Smith o’r [[Y Faenol|Faenol]], perchenogion Chwarel Dinorwig.
 
Bu trychineb yn yr ardal yn [[1899]], pan aeth trip Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i [[Pwllheli|Bwllheli]] a boddwyd deuddeg o’r aelodau, naw ohonynt yn blant, pan ddymchwelodd cwch yn y bae yno.
 
Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1967, ac effeithiodd hyn yn fawr ar economi’r ardal. Erbyn hyn tair siop sydd yn Neiniolen, Y Post, Crefftau Elidir a'r Co-op. Mae [[Antur Waunfawr]] yn cynnal caffi yn y pentref, ac mae dau [[tafarn|dafarn]] yno. Rhed wasanaethau bws rheolaidd oddi yno i [[Caernarfon|Gaernarfon]] a [[Bangor]]. Mae [[ysgol gynradd]] yn y pentref o hyd, sef [[Ysgol Gwaun Gynfi]].
 
Mae Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chynhelir eisteddfod flynyddol.
Llinell 18:
* [http://www.cynnal.co.uk/einbro/deiniolen/index.html Ein bro: Deiniolen]
* [http://www.deiniolenband.org.uk/ Gwefan Seindorf Arian Deiniolen]
 
 
{{Trefi Gwynedd}}