Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hgtudur (sgwrs | cyfraniadau)
Paragraff Agoriadol
Dim crynodeb golygu
Llinell 71:
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i’r Annibynwyr yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru.
 
Rhai o'i gapeli amlycaf heddiw yw: Ebeneser, [[Rhosmeirch]], Môn; Seion, [[Aberystwyth]]; [[Siloa, [[Aberdâr]]; Lôn Swan, [[Dinbych]] (sefydlwyd 1662); [[Henllan Amgoed]], Dyfed; Yr Hen Gapel, [[Llanuwchllyn]]; Bethlehem, [[Rhosllanerchrugog]]; Ebeneser, [[Caerdydd]] a'r [[Tabernacl Treforys]] a adnabyddir fel "Cadeirlan Anghydffurfiol Cymru".
 
== Ffynonellau ==