Gwartheg Duon Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 4:
[[Delwedd:Welsh Black cattle bred by Joseph Evans, Tyndomen, Tregaron (15867815844).jpg|bawd|chwith|Lloi Duon Cymreig a fridiwyd gan Joseph Evans, Tyndomen, [[Tregaron]]. Ffotograff gan [[Geoff Charles]] (1955).]]
Un o nodweddion Gwartheg Duon Cymreig yw eu bod yn medru byw ar yr ucheldiroedd ac ar borfa gymharol wael, lle na all y mwyafrif o fridiau o wartheg fyw. Cyfeirid atynt ar un adeg fel "Yr Aur Du".
 
==Hwsmoniaeth==
::27 Hydref 1959: Gale. Glaw mawr. Cawodydd trymion o'r gogledd Rhwymo'r buchod<ref>Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn[www.llennatur.cymru]</ref>
Mae’r ‘rhwymo’r buchod’ yn ddifyr. Cyfeirio y mae Ellen Jones at roi’r gwartheg i mewn yn y beudy (wedi eu rhwymo â chadwyn) dros y gaeaf. Byddai hyn yn digwydd o gwmpas Glangaea [ddechrau mis Tachwedd]. Tybed a oedd y storm wedi dylanwadu arni i ddod â’r rhwymo ymlaen rhyw chydig, i arbed yr anifeiliaid rhag rhyferthwy’r ddrycin? E’lla byddai edrych ar ddyddiad y rhwymo mewn blynyddoedd eraill yn rhoi’r ateb...? Twm Elias A dyma wneud:
Rhiw 17 Tachwedd 1931: Diwrnod eto [efo?] rhwymo'r dynewaid [gwartheg deunaw mis oed].
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw Môn 27 Hydref 1959 : Gale. Glaw mawr Cawodydd
trymion o'r gogledd Rhwymo'r buchod
30 Medi 1960: Oer. Llo bach Meg (3pm). Llo bach Peggy
(11.30pm). Rhwymo 4 o fuchod
Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn
Difyr bod tywydd yn cael ei grybwyll yn y ddau achos yn Ty Crwn o fewn diwrnod o'i gilydd mewn gwahanol flynyddoedd a'r cofnod o Rhiw heb son am dywydd mawr yn dyddio o hwyrach yn y flwyddyn
Meddai Brenda Jones, un o’n mewnbynnwyr ffyddlon: “Mae'n dda pan mae'r jig so yn ffitio'r darlun mawr, tydi? Gwych!”
 
==Gweler hefyd==