Walter Sisulu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Bywyd: Cywiro
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 15:
 
==Ymgyrchu gyda'r ANC==
Ymunodd â'r ANC yn 1941. Ym 1943, ynghyd â [[Nelson Mandela]] ac [[Oliver Tambo]], ymunodd â Chynghrair Ieuenctid ANC, a sefydlwyd gan Anton Lembede, a bu SisulwSisulu'n drysorydd i'r mudiad. Yn ddiweddarach, ymadawodd â'r mudiad wedi i Lembede sarhau ei rieni (gan fod tâd Sisulu'n reolwr gwyn). Bu farw Lembede yn 1947. Roedd Sisulu yn drefnydd gwleidyddol galluog ac roedd ganddo rôl amlwg yn cynllunio mudiad filwriaethol, ''Umkhonto we Sizwe'' ("[[Gwaywffon]] y Genedl"). Fe'i gwnaed yn ysgrifennydd cyffredinol yr ANC yn 1949, gan ddisodli'r arweinyddiaeth hŷn fwy goddefol. Daliodd y swydd honno tan 1954. Ymunodd hefyd â Phlaid Gomiwnyddol De Affrica.
 
Fel cynllunydd Ymgyrch "Defiance" yn 1952, cafodd ei arestio y flwyddyn honno a rhoddwyd ddedfryd dros dro arno. Ym 1953, teithiodd i Ewrop, yr [[Undeb Sofietaidd]], [[Palesteina]] a [[Tsieina]] fel cynrychiolydd yr ANC. Cafodd ei garcharu saith gwaith yn ystod y deng mlynedd nesaf, gan gynnwys pum mis yn 1960, ac fe'i rhoddwyd dan arestiad tŷ yn 1962. Yn yr Achos Teyrnfradwriaeth ("Treason Trial") yn 1956-1961, fe'i dedfrydwyd yn y pen draw i chwe blynedd, ond fe'i rhyddhawyd ar fechnïaeth a oedd yn aros ei apêl. Ffodd dan ddaear yn 1963 o lygad yr awdurdodau, gan arwain at i'w wraig fod y ddynes gyntaf i'w harestio dan Ddeddf Diwygio Deddfau Cyffredinol 1963 ("General Laws Amendment Act" neu "cymal 90 diwrnod" <ref>H. Lever, "The Johannesburg Station Explosion and Ethnic Attitudes", {{cite journal|title=The Public Opinion Quarterly|issue=Vol. 33, No. 2, Summer 1969|pages=180–189| jstor=2747759}}</ref>). Cafodd ei ddal yn Rivonia ar 11 Gorffennaf, ynghyd ag 16 arall. Ar ddiwedd Achos Rivonia, 1963-1964, dedfrydwyd ef i garchar am oes ar 12 Mehefin 1964. Gyda ffigurau ANC eraill, fe wasanaethodd y mwyafrif o'i ddedfryd ar [[Ynys Robben]].