Llanwenllwyfo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw '''Llanwenllwyfo''', sy'n gorwedd ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain yr ynys. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y sant...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Plwyf]] eglwysig ar [[Ynys Môn]] yw '''Llanwenllwyfo''', sy'n gorwedd ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain yr ynys. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y santes leol Gwenllwyfo.<ref>Melville Richards, 'Enwau lleoedd', ''Atlas Môn'' (Llangefni, 1972).</ref> Fel gweddill plwyfi'r ynys, mae'n rhan o [[Esgobaeth Bangor]].
 
Ni wyddys ddim o gwbl am y Santes Wenllwyfo. Dethlir ei gŵyl ar 30 Tachwedd.<ref>T. D. Berverton, ''The Book of Welsh Saints'' (Caerdydd, 2001).</ref> Mae'r hen eglwys yn adfail a dim ond rhannau isaf y muriau sy'n aros.<ref>[[http://www.photosofchurches.com/anglesey-llanwenllwyfo-old-church.htm Hen Eglwys Llanwenllwyfo]</ref> Saif yr eglwys newydd ger pentref bychan [[Dulas, Ynys Môn|Dulas]].
 
Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd [[Twrcelyn]] yng nghantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]]. Cofnodir fod Llanwenllwyfo gyda [[Llanysgallog]] yn rhan o reithoriaeth [[Amlwch]] ac yn perthyn i [[Esgobaeth Bangor|Archddiacon Môn]] yn 1535.<ref>A. D. Carr, ''Medieval Anglesey'' (Llangefni, 191982), tud. 276.</ref>
Llinell 9:
==Lleoedd yn y plwyf==
Pentrefi bychain:
*[[Dulas, Ynys Môn|Dulas]]
*Gadlas
*[[Llaneuddog]]
Llinell 18:
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
* {{eicon en}} [http://www.photosofchurches.com/anglesey-llanwenllwyfo-old-church.htm Hen Eglwys Llanwenllwyfo]; disgrifiad gyda lluniau.
 
[[Categori:Daearyddiaeth Ynys Môn]]