Melangell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
llun gwell?
Llinell 1:
[[Delwedd:Sante Melangell shrine.JPG|225px|bawd|Creirfa Melangell yn Eglwys Pennant Melangell]]
Santes[[Sant]]es Gymreig o'r [[6ed ganrif|6ed]] neu'r [[7fed ganrif]] oedd '''Melangell''' ([[Lladin]]:'''Monacella'''). Mae buchedd [[Lladin|Ladin]] iddi, ''Historia Divae Monacellae'', ar gael, yn dyddio o tua'r [[15fed ganrif]].
 
[[Delwedd:Pennant Melangell screen.png|350px|bawd|Ysgrîn bren gerfiedig eglwys [[Pennant Melangell]]; gwelir y santes yn y canol.]]
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]] ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw fel meudwyes ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi.
 
Daeth Melangell yn abades mynachlog fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain.
 
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod[[ysgyfarnog]]od.
 
==CysylltiadDolenni allanol==
*[http://www.st-melangell.org.uk/Cymraeg/Eglwys/eglwys.htm Gwefan Eglwys Santes Melangell, Pennant Melangell.]