Robert Williams (Trebor Mai): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 12:
Nid yw'r [[enw barddol]] "Trebor Mai" ond enw y bardd wedi'i sgwennu o'r chwith. Mae Trebor Mai yn enghraifft ragorol o [[Bardd gwlad|feirdd gwlad]] y cyfnod; roedd ei dad yn barddoni a dysgodd Trebor Mai hanfodion y [[Cynghanedd|gynghanedd]] o gyfnos cynnar iawn. Arferai cyfansoddi wrth weithio ac yn fuan daeth yn enwog yn y fro am barodrwydd ei awen.
 
Fel pob bardd cymerai ran yn yr [[eisteddfod]]au, mawr a bach. Am gyfnod roedd Caledfryn yn [[athro barddol]] iddo. Y prif ddylanwad llenyddol arno oedd gwaith [[Ieuan Glan Geirionydd]]. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion llengar, yn cynnwys [[Dewi Arfon]] a [[Scorpion]]. Gyda [[Gethin Jones (Llanrwst)]] a [[Gwilym Cowlyd]] sefydlodd [[Arwest Llyn Geirionydd]]. Enillodd ei awdl "Y Gloch" Gadair [[Taliesin]] yn yr arwest ar lannau'r llyn yn [[1875]]. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, sef ''Fy Noswyl'' ([[1861]]) a ''Geninen'' ([[1869]]).
 
Er nad oes llawer o werth parhaol i'r cerddi eisteddfodol a gyfansoddodd mae Trebor Mai yn adnabyddus hyd heddiw am ei englynion ffraeth a synhwyrol. Bardd ei fro a'i gymdeithas ydyw ac mae ei ganu ar ei orau pan mae'n canu i gyfeillion a chymdogion ar achlysuron llawen neu drist, yn disgrifio pethau bach bob dydd neu'n ymgolli yn swyn natur [[Dyffryn Conwy]] ac [[Eryri]].