Twrch daear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 5:
Creadur bychan melfedaidd ei flew (a chanddo lygaid bychain, trwyn hirfain teimladwy a choesau blaen cryfion a chyhyrog) sy’n byw gan mwyaf mewn twnelau dan wyneb y pridd, gan durio am bryfed genwair a chynrhon o bob math yn fwyd, twrch daear<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru</ref>
 
Er fod y rhan fwyaf o dyrchod daear yn tyrchu, mae rhai mathau yn ddyfrol neu'n rhannol ddyfrol. Mae gan dyrchod daear gyrff silindrog wedi ei orchuddio gyda blew, a llygaid bychain sydd wedi eu gorchuddio; mae'r clustiau yn anweledig fel rheol. Maent yn bwyta anifeiliaid bychain [[di-asgwrn cefn]] sy'n byw o dan y ddaear. Mae'r twrch daear i'w ganfod yng [[Gogledd America|Ngogledd America]], [[Ewrop]] ac [[Asia]]. Mae ei absenoldeb yn [[Iwerddon]] yn ddadlennol am hanes datblygiad daearyddol yr ynysoedd hyn.
 
Fel [[moch]], gelwir y gwryw yn faedd; a'r fenyw yn hwch. [[Pryf genwair|Pryfaid genwair]] ac anifeiliaid bychain eraill yw prif ddiet tyrchod daear. Gallant hefyd ddal [[llygoden|llygod]] bychain wrth y fynedfa i'w twll. Oherwydd fod eu poer yn cynnwys [[gwenwyn]] sy'n paraleiddio pryfaid genwair, gall tyrchod daear storio eu hysglyfaeth yn fyw ac yn llonydd i'w fwyta'n ddiweddarach. Maent yn adeiladu [[pantri]] er mwyn storio'r ysglyfaeth; mae ymchwilwyr wedi canfod pantrïoedd gyda dros mil o bryfaid genwair ynddynt. Cyn eu bwyta, mae'r tyrchod daear yn tynnu'r pryfaid genwair drwy eu pawenau er mwyn tynnu'r pridd a'r baw allan o'i berfedd.<ref>''The Life of Mammals'', [[David Attenborough]], 2002</ref>