Twrch daear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 8:
Fel [[moch]], gelwir y gwryw yn faedd; a'r fenyw yn hwch. [[Pryf genwair|Pryfaid genwair]] ac anifeiliaid bychain eraill yw prif ddiet tyrchod daear. Gallant hefyd ddal [[llygoden|llygod]] bychain wrth y fynedfa i'w twll. Oherwydd fod eu poer yn cynnwys [[gwenwyn]] sy'n paraleiddio pryfaid genwair, gall tyrchod daear storio eu hysglyfaeth yn fyw ac yn llonydd i'w fwyta'n ddiweddarach. Maent yn adeiladu [[pantri]] er mwyn storio'r ysglyfaeth; mae ymchwilwyr wedi canfod pantrïoedd gyda dros mil o bryfaid genwair ynddynt. Cyn eu bwyta, mae'r tyrchod daear yn tynnu'r pryfaid genwair drwy eu pawenau er mwyn tynnu'r pridd a'r baw allan o'i berfedd.<ref>''The Life of Mammals'', [[David Attenborough]], 2002</ref>
==Ymddygiad==
Dan y ddaear yn tendio’i dwneli y bydd y twrch fel arfer. Ac ar ôl sefydlu ei rwydwaith ei brif waith yw rhedeg ar hyd y twneli yn dal unrhyw bry genwair / mwydyn neu gynron pry teiliwr / jac y baglau fu’n ddigon gwirion i grwydro i’r twnel. Mae ei diriogaeth, fel arfer, yn ’mestyn o ryw hanner acer i 3-4 acer – yn dibynnu ar faint o fwyd sy’n y pridd. Ac ew! Mae o’n beth bach gweithgar. Gall symud, pan yn agor twnel newydd, hyd at 6Kg o bridd – sy’ dros 12 pwys neu bron i stôn mewn 20 munud. Bwysau am bwysau fe shifftith fwy na peiriant jac codi baw yn yr un amser.
==Dosbarthiad tacsonomegol==
|