Menyn cnau mwnci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bwyd wedi ei wneud yn bennaf o [[cnau mwnci|gnau mwnci]] wedi eu rhostio a'u malu yw '''menyn cnau mwnci''', gyda [[halen]] a [[siwgr]] fel arfer. Er bod modd ei wneud gartref, mae ei brynu fel bwyd parod yn fwy cyffredin. Mae dau brif fath o fenyn cnau mwnci, menyn llyfn, a menyn mwy crensiog. I wneud menyn llyfn, caiff y cnau mwnci eu malu yn fân nes eu bod yn bâst; nid yw'r cnau yn cael eu malu mor fân wrth wneud menyn crensiog.
 
Mewn [[brechdan|brechdanau]] neu ar [[tost|dost]] y defnyddir menyn cnau mwnci yn bennaf. Gan mai cnau yw'r prif gynhwysyn, mae'n fwyd iachus, yn cynnwys [[protin]] a [[braster mono-annirlawn]].