Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 40:
Amcangyfrwyd costau gweithredol Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn 2004, i fod yn $1.354 biliwn (doler Canadiaidd). Erbyn canol 2009, cyfrifwyd y byddai'n costio cyfanswm o $1.76 biliwn,<ref>{{dyf gwe| teitl=2010 bid book an Etch-A-Sketch| url=http://thetyee.ca/Blogs/TheHook/Olympics2010/2009/07/02/2010BidBook/| dyddiad=2 Gorffennaf 2009| dyddiadcyrchiad=2009-07-02| cyhoeddwr=[[The Tyee]]}}</ref> y rhanfwyaf o gronfaoedd an-llywodraethol, trwy noddiadau ac arwerthiant hawliau darlledu yn bennaf. Daeth $580 miliwn gan y trethdalwyr i adeiladu neu adnewyddu cyfleusterau yn Vancouver a Whistler, disgwylwyd i $200 miliwn gael ei wario ar ddiogelwch odan arweiniaeth y [[Royal Canadian Mounted Police]] (RCMP). Datgelwyd yn ddiweddarach fod y gwir ffigwr hwnnw'n agosach at $1 biliwn, dros pum gwaith beth amcancyfrwyd yn wreiddiol.<ref>{{dyf gwe| teitl=Olympic security estimated to cost $900M| url=http://www.cbc.ca/canada/british-columbia/story/2009/02/19/bc-olympics-cost-colin-hansen.html| dyddiad=19 Chwefror 2009| cyhoeddwr=CBC News}}</ref> Erbyn dechrau mis Chwefror 2010, amcangyfrwyd cyfanswm cost y Gemau i fod tua $6 biliwn, gyda $600 miliwn yn cael ei wario'n uniongyrchol ar westeio'r gemau. Amcangyfrwyd y byddai'r buddion a'r elw i'r ddinas a'r dalaith, a godir fel canlyniad o gynnal y gemau, tua $10 biliwn, a dangosodd adroddiad [[PricewaterhouseCoopers|Price-Waterhouse]] y byddai'r elw unuingyrchol tua $1 biliwn.<ref>{{dyf gwe| url=http://sportsillustrated.cnn.com/2010/writers/dave_zirin/01/25/vancouver/index.html |teitl=As Olympics near, people in Vancouver are dreading Games| awdur=Dave Zirin| gwaith=Sports Illustrated, CNN|| cyhoeddwr=Sportsillustrated.cnn.com| dyddiad=2010-01-25| dyddiadcyrchiad=2010-02-07}}</ref>
 
=== Canolfannau ===
[[Delwedd:Richmond Olympic Oval front view.jpg|bawd|dde|[[Richmond Olympic Oval]]: lleoliad cynnal y sglefrio cyflymder trac hir.]]
Mae rhai canolfannau, gan gynnwys y [[Richmond Olympic Oval]], wedi eu lleoli ar lefel y môr, sy'n anaml ar gyfer Gemau'r Gaeaf. Gemau 2010 hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i gynnal eu seremoni agoriadol odan do. Vancouver yw'r ddinas mwyaf poblog i gynnal y gemau. Mae'r tymheredd yn Vancouver ym mis Chwefror ar gyfartaledd yn 4.8 °C (40.6 °F).<ref>{{dyf new| teitl=Winter Olympics all wet?: Vancouver has the mildest climate of any Winter Games host city| gwaith=Vancouver Sun| dyddiad=2003-07-09}}</ref>
Llinell 47:
 
Cafodd defnydd egni y canolfannau Olympaidd ei ddilyn yn fyw am y tro cyntaf, gyda'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Casglwyd ddata'r egni o'r systemau mesur ac awtomeiddio adeiladau naw o'r canolfannau, a cafodd ei arddangos ar-lein drwy'r brosiect "Venue Energy Tracker".<ref>{{dyf new| teitl=Measuring the Power of Sport| cyhoeddwr=The Globe and Mail| url=http://www.theglobeandmail.com/news/national/measuring-the-power-of-sport-one-venue-at-a-time/article1455631/| dyddiadcyrchiad=2010-02-04}}</ref>
 
=== Marchnata ===
[[Delwedd:Vrh Vislera - Simbol Olimpijade 2010.JPG|bawd|dde|Cerflun o Ilanaaq, wedi ei leoli ar Mynydd Whistler.]]
Gorychwilwyd a dyluniwyd rhanfwyaf o brif symbolau'r gemau gan y diweddar gyfarwyddwr dylunio [[Leo Obstbaum]] (1969–2009), gan gynnwys y mascots, medalau a chynllun y ffaglau Olympaidd.<ref name=ctv>{{dyf new| awdur=Josh Wingrove| teitl=Vancouver Olympic designer dies at age 40| url=http://www.ctvolympics.ca/about-vancouver/news/newsid=14464.html?cid=rssctv| gwaith=[[Globe and Mail]]| cyhoeddwr=[[CTV Television Network]]| dyddiad=2009-08-21| dyddiadcyrchiad=2010-02-14}}</ref>
 
Datgelwyd logo Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 23 Ebrill 2005, ac enwyd yn Ilanaaq yr [[Inunnguaq]]. Ilanaaq yw'r gair [[Inuktitut]] am ''gfaill''. Mae'r logo'n seiliedig ar gromlech [[Inukshuk]], a adeiladwyd ar gyfer Pafiliwn y Northwest Territories yn [[Expo 86]] a gafodd ei roddi i Ddinas Vancouver wedi'r digwyddiad. Erbyn hyn defnyddir fel tirnod ar [[English Bay Beach]].
 
Cyflwynwyd mascots Gemau Olympaidd a Paralympaidd y Gaeaf 2010 ar 27 Tachwedd 2007.<ref>{{dyf new| teitl=2010 Vancouver Olympics' mascots inspired by First Nations creatures| cyhoeddwr=[[CBC Sports]]| dyddiad= 2007-11-27| url=http://www.cbc.ca/sports/story/2007/11/27/bc-mascot.html | dyddiadcyrchiad=2007-11-27}}</ref> Ysbrydolwyd gan y creaduriaid traddodiadol [[First Nations]], roedd y mascots yn cynnwys:
*''Miga'' — Arth fôr chwedlonol, rhan [[orca]] a rhan [[arth kermode]].
*''Quatchi'' — [[Sasquatch]] yn gwisgo esgidiau ac ''earmuffs''.
*''Sumi'' — Ysbryd anifail gwarchod sy'n gwisgo het y morfil orca, ac yn hedfan gydag adenydd y [[Thunderbird (mytholeg)|Thunderbird]] ac yn rhedeg gyda coesau blewog cryf yr arth ddu.
*''Mukmuk'' — [[Marmot Ynys Vancouver]].
 
Miga a Quatchi oedd mascots y Gemau Olympaidd, Sumi oedd mascot y Gemau Paralympaidd. ''[[Sidekick]]'' oedd Mukmuk yn hytrach na mascot llawn.
 
Cynhyrchodd y [[Royal Canadian Mint]] gyfres o [[darnau arian coffaol|ddarnau arian coffaol]] yn dathlu gemau 2010,<ref>{{dyf new| teitl=14 circulating coins included in 2010 Olympic program| awdur=Bret Evans| cyhoeddwr=Canadian Coin News| dyddiad=23 Ionawr&ndash;5 Chwefror 2007}}</ref> ac mewn partneriaeth gyda [[CTV Television Network|CTV]], cafodd y cyhoedd gyfle i belidleisio dros y ''[[Top 10 Canadian Olympic Winter Moments]]''; a cafodd cynllunioau'n anrhydeddu'r tri uchaf eu ychwanegu at y gyfres o ddarnau arian.<ref name="np-moment">{{dyf gwe| url=http://www.nationalpost.com/todays_paper/story.html?id=1310179| teitl=What's Your Olympic Moment?| awdur=Hollie Shaw| dyddiad=20 Chwefror 2009| cyhoeddwr=The National Post| dyddiadcyrchiad=2009-02-26}}</ref>
 
Cafodd gêm fideo ''[[Vancouver 2010 (gêm fideo)|Vancouver 2010]]'' wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd yn Vancouver ei ryddhau ar 12 Ionawr 2010 er mwyn hybu'r gemau.
 
==Cyfnewid y ffagl==