Gwent Is Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cantref]] yn ne-ddwyrain [[Cymru'r Oesoedd Canol]] oedd '''Gwent Is Coed''' (hefyd weithiau '''Gwent Iscoed'''). Gyda chantref [[Gwent Uwch Coed]] roedd yn un o ddau gantref ar diriogaeth hen deyrnas [[Teyrnas Gwent|Gwent]].
 
Roedd coedwig fawr [[Coed Gwent]] yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'i gelwid yn Went Is Coed a Gwent Uwch Coed. Gwent Is Coed oedd y lleiaf o'r ddau gantref o ran ei faint ond y pwysicaf o ran ei boblogaeth a'i ganolfannu. Gorwedd ar arfordir y de-ddwyrain ar lan [[Môr Hafren]], ar y ffin â [[Lloegr]] gydag [[Afon Wysg]] yn dynodi'r ffin. I'r gorllewin ffiniai â chantref [[Gwynllwg]] ac i'r gogledd â Gwent Uwch Coed.
 
Ar sawl cyfrif, Gwent Is Coed oedd yr ardal bwysicaf yn y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Gymru Rufeinig]]. Yma y codwyd dinas Rufeinig [[Caerleon-ar-Wysg]] neu [[Isca]] (ar safle [[Caerllion]] heddiw), a ddaeth yn bencadlys yr Ail Leng Rufeinig ([[Legio II Augusta]]). Gerllaw roedd [[Caerwent]] ([[Venta Silurum]]), prifddinas y [[Silures]].