Minimaliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Nifer o arddulliau celfyddydol lle caiff pob dim ond nodweddion sylfaenol y gwaith eu diosg ydwy '''minimaliaeth''. Mae'n cyfeirio fel arfer at ddatblygia...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:21, 19 Chwefror 2010

Nifer o arddulliau celfyddydol lle caiff pob dim ond nodweddion sylfaenol y gwaith eu diosg ydwy 'minimaliaeth. Mae'n cyfeirio fel arfer at ddatblygiadau yng nghelfyddyd y Gorllewin ar ôl yr Ail Ryfel Byd; mae'r enghreifftiau amlycaf yng nghelfyddydau gweledol yr Unol Daleithiau yn y 1960au a'r 1970au, mewn gwaith artistiaid megis Donald Judd, Agnes Martin, Robert Morris a Frank Stella. Deilliodd o rai tueddiadau modernaidd, a gellir ei dehongli fel ymateb yn erbyn mynegiadaeth haniaethol, ac yn ragflaeniad i arferion celfyddydol ôl-fodernaidd.

Cyfeiria finimalaeth hefyd at arddull cerddorol sy'n ddibynnol ar ailadrodd ac iteriad, megis yng ngwaith Steve Reich, La Monte Young, Philip Glass, John Adams a Terry Riley. Yn anffurfiol, disgrifir unrhyw beth or-gynnil yn finimol; llenyddiaeth Samuel Beckett a Raymond Carver, ffilmiau Robert Bresson a chynlluniau ceir Colin Chapman er enghraifft.


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.