Bethesda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
→‎Hanes: Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
Llinell 7:
 
== Hanes ==
Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda plwyf [[Llanllechid]] yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor [[Chwarel y Penrhyn]] yn yr 18fed ganrif, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r [[chwarel]] mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd [[Rheilffordd Chwarel y Penrhyn]] yn cysyltu'r chwarel a dociau [[Porth Penrhyn]], ger Bangor.
 
Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r pentref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr cael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth alltudo.
 
== Pobl ==