Andrew Bonar Law: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 48:
== Bywgraffiad ==
Ganwyd Law yn fab i bregethwr gwledig a'i wraig yn [[New Brunswick]], ac yno treuliodd ei fywyd cynnar. Ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth ei fam ym [[1861]], ail-briododd ei dad, a symudodd Law i [[Helensburgh]], [[yr Alban]], i fyw gyda chwaer ei fam Janet a'i theulu, a redodd banc masnachwyr llwyddianus. Wedi iddo gael ei addysgu mewn [[Ysgol baratoadol (DU)|ysgol baratoadol]] yn [[Hamilton, De Swydd Lanark|Hamilton]] ac [[Ysgol Uwchradd Glasgow]], gadawodd Law yr ysgol yn 16 oed i gael "addysg masnachol" yng ngwmni'r teulu. Ychydif flynyddoedd yn ddiweddarach gwerthwyr y cwmni i'r [[Clydesdale Bank]], gan roi gyrfa Law mewn perygl tan i'w ewythrod rho benthyg arian iddo brynu partneriaeth mewn cwmni masnachwyr haearn. Trwy waith caled a chraffter busnes Law, ffynnodd y cwmni odan ei arweinyddiaeth, ac erbyn iddo droi'n 30 oed roedd yn gymharol gyfoethog.
 
Aeth Law i mewn i wleidyddiaeth gyntaf ym [[1897]], pan ofynwyd iddo ddod yn ymgeisydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] ar gyfer seddi [[Glasgow Bridgeton (etholaeth seneddol)|Glasgow Bridgeton]] ac yna [[Glasgow Blackfriars a Hutchesontown (etholaeth seneddol)|Glasgow Blackfriars a Hutchesontown]], gan dderbyn Blackfriars. Er y bu mwyafrif cryf [[Y Blaid Rhyddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] yn ei sedd, ymgyrchodd Law yn llwyddianus ar gyfer [[Etholiad cyffredin y Deyrnas Unedig, 1900|Etholiad Cyffredin 1900]] ac aeth i'r Senedd. Yn [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Nhŷ'r Cyffredin]], daeth yn enwog am ei gof ardderchog a'i areithyddiaeth, ac yn fuan enillodd safle ar fainc blaen y Ceidwadwyr. Bu'n gefnogwr cryf o'r [[diwygiad tollau]], ac apwyntiwyd Law yn [[Ysgrifennydd Seneddol y Bwrdd Masnach]] ym [[1902]].
 
Rhanwyd y Blaid Geidwadol gan y mater o'r diwygiad tollau, ac ymddeolodd y [[Prif Weinidog]] [[Arthur Balfour]], gan annog [[Etholiad cyffredin y Deyrnas Unedig, 1906|Etholiad Cyffredin]] lle gwthiwyd y Blaid Geidwadol i safle'r wrth blaid. Mewn gwrthwynebiad, parhaodd Law i ddadlau dros ddiwygiad tollau, yn y Senedd ac o fewn ei blaid, gan osgoi yn gyffredinol yr argyfwng cyfansoddiadol oamgylch [[Cyllid y Bobl]] ym [[1909]]. Apwyntwyd ef yn [[Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig|Gyngorydd Cyfrin]] y flwyddyn honno gan ei nodi fel Ceidwadwr blaengar, a pan ddaeth yn amlwg y byddai [[Arthur Balfour]] yn ymddeol fel [[Arweinydd y Blaid Geidwadol (DU)|Arweinydd y Blaid Geidwadol]], rhoddodd Law ei enw ymlaen. Er y bu'n rhedeg yn drydydd ar ôl [[Walter Long, Isiarll 1af Long|Walter Long]] ac [[Austen Chamberlain]], enillodd Law'r etholiad yn y pen draw pan holltwyd y blaid gan y posibilrwydd cryf y buasai Long a Chamberlain yn tynnu'n hafal, a tynnodd y ddau allan o'r etholiad.
 
Fel [[Arweinydd y Blaid Geidwadol (DU)|Arweinydd y Blaid Geidwadol]], canolbwyntiodd Law ar ddwy brif fater; [[diwygiad tollau]], a gefnogodd, a [[Hunanlywodraeth Iwerddon]], a wrthwynebodd. Fel arweinydd y gwrth blaid nid oedd mewn sefyllfa lle gall wneud unrhyw newidiadau, ond cafodd ei ymgyrchu cryf yr effaith o droi ymdrechion y Rhyddfrydwyr i basio'r Trydydd Mesur Hunanlywodraethu yn frwydr a barhaodd tair mlynedd cyn cael ei atal yn y pen draw gan ddechrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]].
 
{{Arweinwyr y Blaid Geidwadol (DU)}}