Andrew Bonar Law: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 47:
== Bywgraffiad ==
Ganwyd Law yn fab i bregethwr gwledig a'i wraig yn [[New Brunswick]], ac yno treuliodd ei fywyd cynnar. Ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth ei fam ym [[1861]], ail-briododd ei dad, a symudodd Law i [[Helensburgh]], [[yr Alban]], i fyw gyda chwaer ei fam Janet a'i theulu, a redodd
Aeth Law i mewn i wleidyddiaeth yn gyntaf ym [[1897]], pan ofynwyd iddo ddod yn ymgeisydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] ar gyfer seddi [[Glasgow Bridgeton (etholaeth seneddol)|Glasgow Bridgeton]] ac yna [[Glasgow Blackfriars a Hutchesontown (etholaeth seneddol)|Glasgow Blackfriars a Hutchesontown]], gan dderbyn Blackfriars. Er y bu mwyafrif cryf [[Y Blaid Rhyddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] yn ei sedd, ymgyrchodd Law yn llwyddianus ar gyfer [[Etholiad cyffredin y Deyrnas Unedig, 1900|Etholiad Cyffredin 1900]] ac aeth i'r Senedd. Yn [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Nhŷ'r Cyffredin]], daeth yn enwog am ei gof ardderchog a'i areithyddiaeth, ac yn fuan enillodd safle ar fainc blaen y Ceidwadwyr. Bu'n gefnogwr cryf o'r [[diwygiad tollau]], ac apwyntiwyd Law yn [[Ysgrifennydd Seneddol y Bwrdd Masnach]] ym [[1902]].
Fel [[Arweinydd y Blaid Geidwadol (DU)|Arweinydd y Blaid Geidwadol]], canolbwyntiodd Law ar ddwy brif fater; [[diwygiad tollau]], a gefnogodd, a [[Hunanlywodraeth Iwerddon]], a wrthwynebodd. Fel arweinydd y gwrthblaid nid oedd mewn sefyllfa lle gall wneud unrhyw newidiadau, ond cafodd ei ymgyrchu cryf yr effaith o droi ymdrechion y Rhyddfrydwyr i basio'r Trydydd Mesur Hunanlywodraethu yn frwydr a barhaodd tair mlynedd cyn cael ei atal yn y pen draw gan ddechrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]].
|