Dafydd Wigley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun arall; eginyn! |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6:
Fe'i ganwyd yn unig blentyn yn [[Derby]], [[Lloegr]], ond dychwelodd y teulu i Gymru yn 1946. Mynychodd ysgol [[Rydal Penrhos]], [[Bae Colwyn]]. Aeth i Brifysgol [[Manceinion]] a'i hyfforddi fel cyfrifydd. Roedd yn rheolwr cyllid i [[Hoover]] cyn ei ethol i'r [[senedd]].
Roedd ei fam yn wreiddiol o Bwllheli. Roedd ei mam hithau'n weithgar gyda'r [[Rhyddfrydwyr]] a'i thad yn gyfreithiwr ac yn weithgar gyda'r Toriaid. Roedd tad Dafydd Wigley'n gweithio ym myd llywodraeth leol. Bu yn drysorydd [[Sir Gaernarfon|Cyngor Sir Caernarfon]] o 1947 tan 1974. Cafodd Dafydd Wigley ei fagu yn bennaf yn y [[Bontnewydd]], [[Caernarfon]]. Mynychodd [[Ysgol Ramadeg Caernarfon]] ac Ysgol breswyl [[Rydal Penrhos]], [[Bae Colwyn]] cyn mynd i Brifysgol Manceinion. Ar ôl graddio yn 1964 ymunodd â Chwmni Moduron Ford yn Dagenham i'w hyfforddi mewn cyllid diwydiannol.
Yn 1967 priododd ag [[Elinor Bennett Owen]]. Y flwyddyn honno hefyd yr ymunodd a chwmni Mars; cwmni sy'n enwog am gynhyrchu siocled a melysion.
|