Gweledigaethau y Bardd Cwsc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 1703 yw '''Gweledigaethau y Bardd Cwsc''' gan Ellis Wynne. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn u...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:22, 21 Chwefror 2010
Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 1703 yw Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y 18fed ganrif.
Mae'r gwaith yn seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645). Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n modrwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.