Areoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mawrtheg''' yw daeareg y blaned Mawrth, hynny yw yr astudiaeth o gyfansoddiad, strwythur, nodweddau materol, hanes, a'r ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:46, 21 Chwefror 2010

Mawrtheg yw daeareg y blaned Mawrth, hynny yw yr astudiaeth o gyfansoddiad, strwythur, nodweddau materol, hanes, a'r prosesau sy'n ffurfio'r blaned Mawrth.

Cyfansoddiad elfennol

Y mae'r elfennau sydd yn bresennol ar Fawrth yn cynnwys ocsigen (O), haearn (Fe), a silicon (Si), ynghyd â magnesiwm (Mg), alwminiwm (Al), sylffwr (S), calsiwm (Ca) a thitaniwm (Ti). Y mae cochni nodweddiadol Mawrth yn bennaf yn ganlyniad o ocsidiad yr haearn ar wyneb y blaned. Yn ddiweddar darganfyddwyd bod pridd Mawrth yn cynnwys iâ wedi ei ddal o fewn mwynau, yn ogystal â photasiwm (K), clorin (Cl) a sodiwm (Na).

Epocau Mawrth

Epocau yn ôl dwysedd craterau

Y mae astudiaethau o ddwyseddau craterau gwrthdaro ar wyneb Mawrth yn ein galluogi i adnabod tri epoc yng ngraddfa amser ddaearegol y blaned, gan fod llawer o graterau gan diroedd hŷn a llai o graterau gan diroedd iau.

Cafodd yr epocau eu henwi ar ôl lleoliadau ar Fawrth sydd yn perthyn i'r cyfnodau hyn.

  • Yr Epoc Noachaidd (wedi ei enwi ar ôl Noachis Terra): Ffurfio'r arwynebau hynaf ar gael rhwng 4,600 a 3,500 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ceir llawer o graterau gwrthdaro mawr. Mae'n debyg i chwydd Tharsis gael ei ffurfio yn ystod yr epoc hwn, gyda llifogydd mawr o ddŵr yn digwydd ar ddiwedd yr epoc.
  • Yr Epoc Hesperaidd (wedi ei enwi ar ôl Hesperia Planum): Rhwng 3,500 a 1,800 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yr oedd llifogydd mawr o lafa yn nodweddol o'r epoc hwn. Mae'n debyg i Olympus Mons gael ei ffurfio yn ystod yr epoc hwn. [1].
  • Yr Epoc Amasonaidd (wedi ei enwi ar ôl Amazonis Planitia): Yr epoc presennol a ddechreuodd tua 1,800 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bu llifogydd lafa yn ystod yr epoc hwn gan adael llai o graterau ar yr arwyneb.

Epocau mwynyddol Mawrth

Yn sgil mesuriadau diweddar gan y Sbectromedr Mapio Mwynyddol OMEGA ar fwrdd y Mars Express cynigiwyd graddfa amser ddaearegol amgen gan brif ymchwilydd y sbectromedr OMEGA wedi ei seilio ar gydberthyniad rhwng mwynyddiaeth a daeareg y blaned.

  • Yr Epoc Ffylocaidd (wedi ei enwi ar ôl y ffylosilicadau sydd yn nodweddol o'r epoc). Y mae'r epoc hwn yn estyn o amser ffurfio'r blaned tan 4,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ni allasai'r ffylosilicadau ffurfio heb bresennoldeb amgylchedd o ddŵr alcalinaidd.
  • Yr Epoc Theiicaidd (wedi ei enwi, yn y Roeg, ar ôl y sylffadau sydd yn nodweddol o'r epoc). Rhwng 4,000 a 3,500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yr oedd yr epoc hwn yn gyfnod o actifedd folcanig. Yn ogystal â lafa rhyddhawyd nwyau megis deuocsid sylffwr a gyfunodd â'r dŵr i greu sylffadau ac amgylchedd asidaidd.
  • Yr Epoc Sidericaidd, sef yr epoc presennol. Ar ôl diwedd yr actifedd folcanig a chyda dŵr hylifol yn absennol, prif nodwedd yr epoc hwn yw ocsideiddio arwyneb Mawrth gan berocsidau atmosfferaidd gan roi i'r blaned ei lliw coch nodweddiadol.

Mwynau

Heddiw mae gwyddonwyr yn hyderus am ba fwynau sydd yn bodoli ar y Blaned Goch. Ymhlith y mwynau hyn y mae olifin, pyrocsen, ffelsbar, hematit, clai, goethit, jarosit. sylffadau haearn, a silica opalaidd.

Cemeg yr arwyneb

Credir mai o fasalt yn bennaf y cyfansoddwyd arwyneb Mawrth.


Maes magnetig a strwythur fewnol

Er nad oes maes magnetig byd-eang gan y blaned heddiw, mae mesuriadau'n awgrymu bod rhannau o grawen y blaned wedi cael eu magneteiddio ac yn meddu ar feysydd magnetig.

Disgyrchiant

Y mae radiws Mawrth tua hanner hyd radiws y Ddaear, a dim ond 10% o grynswth y Ddaear sydd gan y blaned, sydd yn gadael Mawrth gyda disgyrchiant o 0.376 g, neu 38% o ddisgyrchiant y Ddaear.

Craidd

Y mae modelau cyfredol o graidd y blaned yn awgrymu rhanbath gyda radiws o ryw 1,480 km wedi ei gyfansoddi'n bennaf o haearn a 15-17% sylffwr. Y mae'r craidd sylffad haearn hwn naill ai yn rhannol ynteu yn gyfan gwbl hylifol, gyda dwywaith y crynodiad o elfennau ysgafn ag sydd yn bodoli yng nghraidd y Ddaear.


Crawen a mantell

Y mae'r craidd wedi ei amgylchu gan fantell o silicad. Y mae trwch y grawen ar gyfartaledd yn 50 km ac yn amrywio rhwng 50 km a 125 km.

Tectoneg

Yn sgil mesuriadau gan y Mars Global Surveyor ym 1999, y mae gwyddonwyr yn credu y bu actifedd dectonig ar Fawrth yn ystod ei 500 miliwn o flynyddoedd cyntaf, gydag Iseldiroedd y Gogledd yn hafal i fasn cefnforol ar y Ddaear.

  1. Elizabeth R. Fuller, James W. Head III "Amazonis Planitia: The role of geologically recent volcanism and sedimentation in the formation of the smoothest plains on Mars"