Afon Cleddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SpBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Fiume Cleddau
llun
Llinell 1:
[[Delwedd:Milford Haven Harbour.jpg|250px|bawd|Afon Cleddau yn harbwr [[Aberdaugleddau]].]]
Afon yn ne [[Sir Benfro]] yw '''Afon Cleddau'''. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ynumnant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig [[Aberdaugleddau]] (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel '''afon Daugleddau''' weithiau).
 
===;Cleddau Wen===
 
Ceir dwy ran i '''afon Cleddau Wen''' (ffurf amgen: ''Cleddy Wen''). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o [[Abergwaun]]. Llifa tua'r de-orllewin heibio [[Scleddau]]. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy [[Cas-blaidd|Gas-blaidd]] i [[Hwlffordd]], lle ceir effaith y llanw.
 
===;Cleddau Ddu===
 
Tardda '''afon Cleddau Ddu''' (ffurf amgen: '''Cleddy Wen''') ar lethrau [[Mynydd Preselau]] ym Mlaencleddau ym mhlwyf [[Mynachlog-ddu]], a llifa tua'r de-orllewin heibio [[Llawhaden]]. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.