Afon Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lluniau, tacluso ychydig |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Afon Tryweryn - geograph.org.uk - 113824.jpg|250px|bawd|Afon Tryweryn tua 2.5 km cyn cyrraedd [[Llyn Celyn]].]]
[[Delwedd:Afon Tryweryn - geograph.org.uk - 98869.jpg|250px|bawd|Afon Tryweryn
:''Mae "Tryweryn" yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon. Am y pentref a foddwyd yn 1965, gweler [[Capel Celyn]].''
Afon yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Tryweryn''' sy'n llifo i mewn i [[Afon Dyfrdwy]]. Daeth i amlygrwydd pan adeiladwyd argae ar ei thraws i greu [[Llyn Celyn]], i gyflenwi dŵr i ardal [[Lerpwl]], gan foddi pentref [[Capel Celyn]]. Mae Afon Tryweryn tua 19 km o hyd.
Mae tarddiad Afon Tryweryn yn [[Llyn Tryweryn]], gerllaw yr [[A4212]] rhwng [[Trawsfynydd]] a'r [[Y Bala|Bala]]. Wedi lifo tua'r dwyrain yn dilyn yr A4212, mae yn awr yn llifo i Lyn Celyn, lle mae nifer o nentydd yn ymuno. Wedi gadael y llyn mae'n llifo tua'r de-ddwyrain heibio [[Frongoch]] ac yna trwy dref Y Bala i gyfarfod Afon Dyfrdwy ychydig islaw [[Llyn Tegid]]
Yn yr Oesoedd Canol, dynodai'r afon rhan o'r ffin rhwng dau [[cwmwd|gwmwd]] [[Cantref]] [[Penllyn]], sef [[Is Tryweryn]] ac [[Uwch Tryweryn]].
|