Afon Taf (Caerdydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lluniau; categoriau; eginyn
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Afon]] yn ne [[Cymru]] yw '''Afon Taf''' ([[Saesneg]]: ''River Taff'').
 
Mae'n tarddu ar [[Bannau Brycheiniog|Fannau Brycheiniog]] fel dwy afon, [[Afon Taf Fawr]] ac [[Afon Taf Fechan]]. Mae Afon Taf Fawr yn cychwyn ar lethrau gorllewinol [[Corn Du]] ac yn llifo tua'r de trwy gronfa Cantref a chronfa Llwyn-on. Ar lethrau dwyreiniol Corn Du mae Afon Taf Fechan yn cychwyn, ac mae'n llifo trwy gronfeydd Neuadd, Pentwyn a PontsticillPhontsticill a phentref [[Pontsticill]].
 
Mae'r ddwy afon yn cyfarfod o gwmpas rhan ogleddol [[Merthyr Tudful]] ac yn llifo ymlaen tua'r de trwy [[Pentrebach|Bentrebach]], [[Troedyrhiw]] ac [[Aberfan]]. Yn [[Abercynon]] mae [[Afon Cynon]] yn ymuno â hi, yna mae [[Nant Clydach]] yn ymuno ychydig islaw Abercynon. Gerllaw [[Pontypridd]] mae [[Afon Rhondda]] yn ymuno. Wedi llifo heibio [[Trefforest]] a [[Nantgarw]] mae'n cyrraedd [[Caerdydd]] yn [[Llandaf]] ac yn llifo trwy'r ddinas heibio [[Stadiwm y Mileniwm]] i gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd.
 
Dywedir weithiau fod y llysenw "Taffy" at Gymry yn dod o enw Saesneg yr afon yma, ond barn arall yw mai llygriad Saesneg o'r enw "Dafydd" sydd wrth wraidd yr enw yma.