Eleazar Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed Eleazar Roberts ym Mhwlleli, Sir Gaernafon, ar y 15fed o Ionawr 1825. Roedd yn fab i John a Margaret Roberts. Pan yn ddeufis oed fe symudon nhw i Le...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ganed [[Eleazar Roberts]] ym ((Pwlleli|Mhwlleli)), Sir Gaernafon, ar y 15fed o Ionawr 1825. Roedd yn fab i John a Margaret Roberts. Pan yn ddeufis oed fe symudon nhw i Lerpwl. Cafodd ei addysg yn ysgol Owen Brown, Rose Place, a'r Liverpool Institute. Fe aeth i weithio i swyddfa gyfieithwyr yn 13 mlwydd oed.
 
Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei ymddiswyddiad yn 1894. Gwnaed ef yn ustus heddwch yn 1895. Ysgrifennodd i'r cylchgronau: Y Drysorfa, Y Traethodydd, a'r Geninen, ac yn wythnosol i'r Amserau dan yr enw ‘Meddyliwr.’ Astudiodd seryddiaeth a chyfieithodd ddwy gyfrol Dr. Dick ar y gyfundrefn heulog yn Gymraeg, ac âi o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeth. Ef a ysgrifennodd gofiant Henry Richard (‘Apostol Heddwch’) a'r nofel Gymraeg Owen Rees, sydd yn darlunio bywyd Cymreig yn Lerpwl. Ef oedd arloeswr cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yng Nghymru, a theithiodd ar hyd a lled Cymru i'w hegluro ac i sefydlu dosbarthiadau cerddorol. Cyhoeddodd Llawlyfr Caniadaeth, Llawlyfr y Tonic Solffa, Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant, a Hymnau a Thonau. Bu'n flaenor ac yn arweinydd y canu yng nghapel Netherfield Road, ac ef (gyda John Edwards) a arweiniodd y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl yn 1880. Ef a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd ‘O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw.’ Bu farw 6 Ebrill 1912, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield, Lerpwl.
 
 
[[Categori:Genedigaethau 1825]]