Gogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
==Diffinio'r rhanbarth==
Yn hanesyddol, bu'r rhan fwyaf o ogledd Cymru yn rhan o [[Teyrnas Gwynedd|Deyrnas Gwynedd]]. Heddiw, mae'n cynnwys [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|siroedd]] Môn, [[Gwynedd]], [[Conwy (sir)|Conwy]], [[Sir Ddinbych|Dinbych]], [[Sir y Fflint|Fflint]], a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]]. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o ryw 738,000 o bobl.
 
Gellir ymrannu'r rhanbarth yn ddau is-ranbarth sy'n bur wahanol o ran hanes a diwylliant, er bod ganddynt llawer mewn cyffredin hefyd. Mae'r gogledd-orllewin - yn fras, yr hen sir [[Gwynedd]] cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 - yn fwy [[Cymraeg]] na'r gogledd-ddwyrain, er bod rhannau o'r olaf, yn enwedig cefn gwlad siroedd Conwy a Dinbych, yn dal yn gadarnleoedd Cymraeg. Mae'r ymraniad hwn yn hen, gyda'r gogledd-orllewin yn cyfateb yn fras i diriogaeth [[Gwynedd Uwch Conwy]] a'r gogledd-ddwyrain i'r [[Berfeddwlad]] ([[Gwynedd Is Conwy]]): mor ddiweddar â'r 19eg ganrif arferai pobl gyfeirio at y gogledd gyfan fel 'Gwynedd' (cf. yn enw'r [[Gwyneddigion]]).