Amser Mawrth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 47:
 
Ceir hefyd rhanbarthau amser 15° eu lled, a chyfeirir atynt gydag ôl-ddodiad yn nodi y gwahaniaeth mewn oriau rhwng pob rhanbarth a MTC; er enghraifft lleolir [[Olympus Mons]] yn y rhanbarth amser MTC-9, sef naw awr tu ôl i MTC.
 
===Dyddiad Sol Mawrth (MSD)===
 
Mae'r Dyddiad Sol Mawrth (Saesneg: ''Mars Sol Date'' neu MSD) yn cael ei ddiffinio gan AM2000. Mae hynny'n cynrychioli cyfrif dylaniannol o ddiwrnodau heulol Mawrth ers 12:00 GMT ar 29 Rhagfyr 1873 (Dyddiad Iŵl 2405522.0),. Yr oedd yr epoc hwn cyn gwrthsafiad perihelaidd mawr 1877 a bron pob arsylwad manwl o'r blaned. Mae'n gyfateb i ''L<sub>s</sub>'' ar Fawrth o 277°, tua'r un hydred heulol planed-ganolig ag oedd gan y Ddaear ar yr un dydd. Roedd MSD 44796.0 yn cyd-digwydd â 2000 Ionawr 6.0 a ''L<sub>s</sub>'' = 277° ar Fawrth. Roedd 44795 sol hefyd bron yn gyfateb i 126 o flynyddoedd Iŵl a 67 o flynyddoedd trofanol Mawrth. Cynhwysir MSD yn y rhaglen [[Java]] Mars24 o NASA.
 
===Calendr Mawrth===
 
Mae calendr Cronfa Ddata Hinsawdd Mawrth (sydd wedi ei noddi gan y [[Brifysgol Agored]] ac [[ESA]]) yn rhannu blwyddyn drofanol Mawrth yn 12 rhan. Mae'r "misoedd" hyn yn cael eu diffinio gan newid o 30° o hydred heulol/Mawrth-ganolig (''L<sub>s</sub>''). Fel canlyniad o echreiddiad cylchdroadol Mawrth y mae hyd y misoedd hyn yn amrywio o 46 i 67 sol.
 
{| class="wikitable"
|-
! Mis
! L<sub>s</sub>
! Sol
! Parhad (soliau)
! Penodoldebau
|-
| 1
| 0°
| 0
| 61.2
| Cyhydnos y gwanwyn (hemisffer y gogledd) ar L<sub>s</sub> = 0°
|-
| 2
| 30°
| 61.2
| 65.4
|
|-
| 3
| 60°
| 126.6
| 66.7
| Affelion ar L<sub>s</sub> = 71°
|-
| 4
| 90°
| 193.3
| 64,5
| Heuldro'r gaeaf (hemisffer y gogledd) ar L<sub>s</sub> = 90°
|-
| 5
| 120°
| 257.8
| 59.7
|
|-
| 6
| 150°
| 317.5
| 54.4
|
|-
| 7
| 180°
| 371.9
| 49.7
| Cyhydnos yr hydref (hemisffer y gogledd) ar L<sub>s</sub> = 180°
Dechrau tymor y stormydd llwch
|-
| 8
| 210°
| 421.6
| 46.9
| Tymor y stormydd llwch
|-
| 9
| 240°
| 468.5
| 46.1
| Perihelion ar L<sub>s</sub> = 251°
Tymor y stormydd llwch
|-
| 10
| 270°
| 514.6
| 47.4
| Heuldro'r haf (hemisffer y gogledd) ar L<sub>s</sub> = 270°
Tymor y stormydd llwch
|-
| 11
| 300°
| 562.0
| 50.9
| Tymor y stormydd llwch
|-
| 12
| 330°
| 612.9
| 55.7
| Diwedd tymor y stormydd llwch
|}
 
 
===Dolenni allanol===