Dyn Hysbys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: trwsio dolen
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Dyn Hysbys''' (''soothsayer'' neu ''cunning man'' yn Saesneg) yw'r enw traddodiadol yn y Gymraeg am gonsuriwr, [[dewin]] neu swynwr. Er y gellir ei gymhwyso at berson o'r fath mewn unrhyw ddiwylliant mae'r erthygl hon yn ymwneud â hanes y 'Dyn Hysbys' yng [[Cymru|Nghymru]].
 
Mae'n anodd diffinio union swyddogaeth y Dyn Hysbys am fod y dystiolaeth yn amrywio o ardal i ardal ac o oes i oes, ond gellir dweud yn gyffredinol ei fod yn meddu ar allu i amddiffyn pobl ac anifeiliaid rhag [[swyn]]ion maleisus - a fwrid gan [[gwrach|wrachod]], er enghraifft - ac i ddarogan y dyfodol a gwella afiechydon. Roedd felly yn 'ddewin' ac yn feddyg, yn hyddysg yng nghyfrinachau [[llysiau rhinweddol]].
Llinell 16:
:Ni laddwyd yr un Dyn Hysbys yng Nghymru am ei weithgareddau anuniongred; ac ni chafodd yr un wrach ei llosgi na'i boddi.<ref>Kate Bosse Griffiths, ''Byd y Dyn Hysbys'' (Y Lolfa, 1977), tudalen 7.</ref>
 
Diau fod rhai Dynion Hysbys yn barod i fanteisio ar ofnau ac ofergoelion y werin er eu mantais ariannol eu hunain, ond yn gyffredinol roedd gan y Dyn Hysbys swyddogaeth bwysig yn y gymdeithas werinol. Fel 'dewin' roedd yn honni medru rhagweld y dyfodol ac felly ymgynghoriymgynghorai pobl ag ef ynghylch cariad a marwolaeth a phenderfyniadau o bob math. Ond ymddengys mai prif weithgarwch y Dyn Hysbys oedd fel meddyg traddodiadol, yn ceisio gwella cleifion dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd trwy ei wybodaeth o'r [[llysiau rhinweddol]]. Byddai'n atgyfnerthu hynny yn aml gyda swynion amddiffynnol, fel rheol ar ffurf rhyw weddi Lladin neu eiriau hud wedi eu hysgrifennu ganddo ar ddarn o bapur. Defnyddiai hefyd yr [[abracadabra]] ac arwyddion y [[Sidydd]].<ref>Kate Bosse Griffiths, ''Byd y Dyn Hysbys'' (Y Lolfa, 1977). Penodau IV a V.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==