Corea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Almabot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hi:कोरिया, tt:Корея
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: war:Korea; cosmetic changes
Llinell 3:
[[Gwlad]] hanesyddol a thiriogaeth ddaearyddol a diwylliannol yn Nwyrain [[Asia]], i'r dwyrain o [[China]] ac i'r gorllewin o [[Japan]], yw '''Korea''' (neu '''Corea'''). Ers y [[1950au]] fe'i rhennir yn ddwy [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], sef [[De Korea|Gweriniaeth De Korea]] a [[Gogledd Korea]]. Gwlad Gomiwnyddol yw Gogledd Korea a rhwng Mehefin [[1950]] a Gorffennaf [[1953]] bu rhyfel rhwng y ddwy wlad fel rhan o'r [[Rhyfel Oer]].
 
=== Hanes Korea ===
Meddiannodd Siapan Korea o 1910 hyd at 1945 pan "ymroddodd" Siapan tua diwedd yr ail ryfel byd. Derbyniwyd yr ymroddiad gan yr Undeb Sofietaidd yng gogledd y wlad, a gan yr Unol Daleithiau yn y de. Wrth i'r llywodraeth Sofietaidd a llywodraeth yr Unol Daleithiau fethu cytuno ar ddyfodol y wlad, Syngman Rhee ddaeth yn arweinydd y De cyfalfol a'r Capten Kim Il Sung yn arweinydd y Gogledd sosialaidd.
 
 
=== Rhyfel Korea ===
Gyda'r bwriad o ail uno'r wlad o dan ei arweiniaeth ymosododd lluoedd Kim Il Sung ar y De yn [[1950]]. Dechreuodd [[Rhyfel Korea]] gyda goresgyniad [[Inchon]] ar 25ain o Fehefin. Daeth [[DU|Prydain]] a'r [[Unol Daleithiau]] i mewn yn filwrol ar ochr y De tra bu'r Gogledd yn mwynhau cefnogaeth yr [[Undeb Sofietaidd]] dan [[Stalin]] a [[Gweriniaeth Pobl China]] dan [[Mao Zedong]]. Arwyddwyd cadoediad rhwng y Gogledd a'r Unol Daleithiau ar rhan yr CU yn Panmunjeom yn 1953 a chrewyd ffin cadoediad yn ardal anfilwrol (DMZ - Demilitarised Zone) hyd Lledred 38 rhwng y De a'r Gogledd, tua'r un lle a'r ffin cyn y rhyfel. Yn dechnegol, mae'r ddwy wlad yn dal mewn rhyfel.
 
=== Heddiw ===
Mae Gweriniaeth De Korea (prifddinas: [[Seoul]]) dan ei harlywydd Roo Moo Hyun yn wlad ddemocrataidd heddiw, ond mae'r Gogledd yn parhau i fod yn wlad Stalinaidd ar linellau'r hen Undeb Sofietaidd dan ei harweinydd [[Kim Jong-il]] a'i lywodraeth yn [[Pyongyang]].
 
Llinell 87:
[[uk:Корея]]
[[vi:Triều Tiên]]
[[war:Korea]]
[[yi:קארעע]]
[[yo:Korea]]