Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iestyn Tyne"

Ychwanegwyd 1,340 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B
Bardd, llenor, a cherddor yw '''Iestyn Tyne''' (ganwyd [[3 Gorffennaf]] [[1997]]). Mae'n hanu o [[Boduan|Foduan]] ym [[Pen Llŷn|Mhen Llŷn]]. Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol ''[[Y Stamp]]'', ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin [[Patrobas]] a [[Pendevig]]. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.
 
==Bywyd cynnar ac addysg==
Mae Iestyn yn fab ffarm o [[Boduan|Foduan]] ym [[Pen Llŷn|Mhen Llŷn]]. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, [[Ysgol Uwchradd Botwnnog]]. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Nholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferfol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band 'Y Chwedlau' a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP ac wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Bas. Ar yr un pryd roedd grŵp gwerin Ciaridyms gyda Gwilym Bowen Rhys a Gethin Griffiths.
 
Wedi hynny aeth i astudio ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.<ref>{{dyf gwe|url=http://stafellgerdd.blogspot.com/2018/10/iestyn-tyne-cyfweliad.html|teitl=Iestyn Tyne (Cyfweliad)|cyhoeddwr=Blog Stafell Gerdd|dyddiad=1 Hydref 2018|dyddiadcyrchu=18 Ionawr 2019}}</ref>
 
==Gyrfa==
Mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy yn rhan amser.
 
==Barddoni==
Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd.<ref>https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/student-iestyn-tyne-takes-years-11425285</ref> Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, ''Addunedau'', yn 2017;<ref>https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258696-fideo-bardd-ifanc-yn-cyhoeddi-ar-ei-liwt-ei-hun</ref> a chyhoeddodd ei ail gyfrol, ''Ar adain'', drwy [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]] yn 2018.<ref>https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-event/lansiad-ar-adain-iestyn-tyne/</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
 
* ''Addunedau'' (2017)
* ''Ar adain'' (2018)
 
==Dolenni allanol==
* {{Twitter|iestyn_tyne}}
* [https://www.ystamp.cymru/ Gwefan Y Stamp]
 
==Cyfeiriadau==