Peilot morwrol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Maritime pilot"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:40, 19 Ionawr 2019

Morwr sy'n llywio llongau trwy ddyfroedd peryglus neu brysur, fel porthladdoedd neu aberoedd afonydd, yw peilot morwrol neu beilot ar y môr. Byddai'r peilot yn arbenigwr mordwyol sy'n adnabod nodweddion dyfrffordd benodol, fel ei dytnder, ei throlig, a'i pheryglon.

Peilot yn byrddio llong o gwch peilot

Daw'r gair 'peilot' o'r Ffrangeg pilot, pillot, yr Eidaleg piloto, o'r Lladin pillottus; ac o bosib yn wreiddiol o Hen Roeg πηδόν (pēdón, "llafn rhwyf, neu rwyf"). Mae swyddogaeth y peilot yn mynd yn ol i'r Hen Roeg a chyfnod y Rhufeinaid, pan fyddai capteiniaid profiadol, pysgotwyr lleol fel arfer, yn cael eu cyflogi i longau oedd yn cyrraedd eu porthladd i'w cludo yn ddiogel i'r harbwr.

Daeth y gair hefyd i'w ddefnyddio yn ddiweddarach i gyfeirio at berson sy'n llywio awyren, ac yn y cyd-destun hwnnw y mae'n cael ei glywed amlaf erbyn hyn.

Yn ei hemyn adnabyddus 'Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd', disgrifiodd Ann Griffiths yr Iesu fel y 'peilot ar y môr'.

Cyfeiriadau