Rhif atomig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jotterbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: lmo:Nümer atomich
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yng Nghemeg a Ffiseg, y '''rhif atomig''' ('''''Z''''') yw'r nifer o [[proton|brotonnau]] a ddarganfyddir mewn niwclews atom. Mewn atom sydd â gwefr niwtral, bydd y nifer o electronnau o amglych y niwclews yn hafal i'r rhif atomig.
 
Yn wreiddiol, roedd y rhif yn dangos lle elfen yn ay [[tabl cyfnodol]] yn unig. Pan drefnodd [[Dmitri Mendeleev]] yr [[elfen cemegol|elfennau cemegol]] hysbys i mewn i grwpiau yn ôl eu tebygrwydd cemegol, gwelir fod trefnu'r elfennau yn ôl eu [[màs atomig]] yn rhoi rhai anghymhariadau. Roedd [[Iodîn]] a [[Telleriwm]], wrth eu rhestri yn ôl eu màs atomig, yn ymddangos i fod yn y drefn anghywir, ac byddent yn ffitio'n well petai eu safleoedd yn cael eu gwrthdroi. Wrth rhoi'r elfennau mewn trefniant a oedd yn ffitio eu priodweddau cemegol fwyaf agos, eu rhifau yn y tabl oedd eu rhifau atomig. Roedd y rhif yma bron ar gyfartaledd gyda màs yr atom ond hefyd yn adlewyrchu rhyw briodwedd arall ar wahân i fàs yr atomau.
 
Esboniwyd yr anomaliau yn y gyfres hwn yn 1913 gan [[Henry Gwyn Jeffreys Moseley]]. Darganfyddodd Moseley berthynas pendant rhwng spectra [[diffreithiant pelydr X|diffreithiant pelydrau X]] yr elfennau, a'u lleoliad cywir yn y tabl cyfnodol. Dangoswyd yn hwyrach fod y rhif atomig yn cyfateb i [[gwefr trydanol|wefr trydanol]] y niwclews - hynny yw, y nifer o brotonnau. Y wefr sy'n rhoi i elfennau eu priodweddau cemegol, yn hytrach na'r mas atomig.