Daeargoel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 7:
==Defnyddio Daeargoel==
 
Yn ei llyfr ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru'' disgrifia'r awdures [[Kate Bosse-Griffiths]] sut yr ymarferai dynion hysbys ddaeargoel<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, td 46-50, Y Lolfa 1977.</ref>. Er mwyn creu'r awyrgylch priodol byddai'r Dyn Hysbys yn dechrau gyda ''"Gweddi Daeargoel"'' yn ymbil ar D[[duw]] wrth wneud ''"y ffigur hwn o ddaeargoel"'' er mwyn cael ateb a fyddai'n wir a pherffaith, a hynny ''"yn enw [[Iesu Grist]], ein Harglwydd a'n Gwaredwr"''. Wedyn gofynnir i'r holwr wneud yn gyflym bedair llinell o ddotiau heb ystyried y rhif. Wrth feirniadu'r dotiau, yr unig beth o bwys yw, a yw'r rhif yn [[rhif gwastad|wastad]] neu beidio. Er mwyn cyfansoddi'r ffigur daeargoelus, gosodir un pwynt i lawr ar gyfer pob llinell "anwastad" a dau bwynt ar gyfer pob llinell gwastadwastad.
 
Wrth ddefnyddio ffigurau o bedair llinell y mae'n bosibl cael 16 o amrywiadau, ac felly yr un nifer o ffigurau daeargoelus gwahanol. Rhoddir enw [[Lladin]] i bob un o'r ffigurau ac fe'u cysylltir, bob yn ddau, â'r planedau [[astroleg]]ol sy'n rheoli'r wythnos, sef yr [[Haul]], y [[Lleuad]], [[Mawrth]], [[Mercher]], [[Iau]], [[Gwener]] a [[Sadwrn]], ac eithrio'r ddau ffigur olaf, a gysylltir ag "Y D[[draig]]".